Mynd yn Fyw! Trafod y sin fyw yn Aberystwyth ac Abertawe

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mynd yn Fyw! Trafod y sin fyw yn Aberystwyth ac Abertawe

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Llun 01 Tach 2010 12:22 pm

Mynd Yn Fyw!

Mae SCG yn ymchwilio a chasglu gwybodaeth am y sin fyw yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu strategaeth hir-dymor i sicrhau dyfodol llwyddianus a chynaladwy i’r diwydiant byw. Os ydych yn ymwneud a cherddoriaeth byw yng Nghymru yna ymunwch a ni yn Aberystwyth ar y 9fed o Dachwedd ac yn Abertawe ar Dachwedd 11 2010 i ddarganfod mwy a chynnig eich sylwadau a’ch meddyliau.

Cynhelir y sesiynau AM DDIM hyn yn Aberystwyth ac Abertawe:

Gweithdy Miwsig Byw

Ydy chi’n gweithio â cherddoriaeth fyw…neu eisiau? Ydy chi mewn band, ac yn awyddus i chwarae mwy o sioeau byw? Ceisio cyfarfod asiaintiaid? Chwarae gwyliau? Darganfyddwch ble a phryd i chwarae, sut i ddarganfod cynulleidfa, a sut i gadw cefnogwyr i ddatblygu sioeau’r dyfodol.

Cerddoriaeth Fyw: Oes Angen Newid?

Yn ymgasglu hyrwyddwyr, rheolwyr, asiantiau, cerddorion a lleoliadau, ymysg eraill o Gymru a thu hwnt i drafod y rhwystrau canfyddiedig yn lleol a chenedlaethol a rhannu eich barn ar sut i feithrin sin fyw fwy effeithiol.


--------------------------------------------------------------------------------


Aberystwyth – Mawrth 9 Tachwedd 2010
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU

3-4yh Gweithdy Miwsig Byw
4.15-5.15yh Cerddoriaeth Fyw: Oes Angen Newid?

Abertawe – Iau 11 Tachwedd 2010
Monkey Bar and Café, 13 Stryd y Castell, Abertawe, SA1 1JF

1-2yh Gweithdy Miwsig Byw
2.15-3.15yh Cerddoriaeth Fyw: Beth Sydd Angen ei Newid?

Mynediad am ddim.
I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com

--------------------------------------------------------------------------------

Cyfrannwch i’r ymchwil arlein drwy gwblhau’r holiadur byr yma: https://www.survey.glam.ac.uk/cerddbyw

Cysyniwyd yr ymchwil gan Dr Paul Carr (Yr Atriwm, Prifysgol Morgannwg) ar y cyd gyda Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Caiff pob ymateb eu pwyso a’u mesur i chwarae rhan allweddol mewn llywio dyfodol cerddoriaeth byw yng Nghymru.
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai