Sin amgen Cymru?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sin amgen Cymru?

Postiogan Rhywfatho » Mer 17 Tach 2010 10:53 am

Mae'r sin yn warthus.
Dim ddigon da.
Mae na fandia da o gwmpas. Don't get me rong de, mae na rei dda iawn e.e. Jen Jeniro, Y Niwl, Mr. Huw, Yucatan, a few o rei eraill fyd. Ond heb law am heina, does na ddim byd rili.
Cymru angen band newydd sy ddim yn indie fycin rock boring. Bron iawn i bob fand ifanc yn indie rock. Diflas. Lle mae'r gerddoriaeth amgen di fynd eh?
Isho rhywyn i ddal yr sin yn y peli a ddechrau gofyn gwestiynau! C'mon plantos, dewch a wbath newydd i mi!
Rhywfatho
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 17 Tach 2010 10:21 am

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Khmer » Mer 17 Tach 2010 12:13 pm

Rhywfatho a ddywedodd:Mae'r sin yn warthus.
Dim ddigon da.
Mae na fandia da o gwmpas. Don't get me rong de, mae na rei dda iawn e.e. Jen Jeniro, Y Niwl, Mr. Huw, Yucatan, a few o rei eraill fyd. Ond heb law am heina, does na ddim byd rili.
Cymru angen band newydd sy ddim yn indie fycin rock boring. Bron iawn i bob fand ifanc yn indie rock. Diflas. Lle mae'r gerddoriaeth amgen di fynd eh?
Isho rhywyn i ddal yr sin yn y peli a ddechrau gofyn gwestiynau! C'mon plantos, dewch a wbath newydd i mi!


Pam na neu di ddechre'r chwyldro?

Pa fath o gerddoriaeth wyt ti am glywed yn lle?

Achos o beth dwi'n clywed, gwrando a gweld, ma na lot fawr o gerddoriaeth electro a pop a steils gwahanol i indie rock ar y sin ar y funed. Wyt ti yn gwrando ar y bands / artistiaid yma?
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Rhywfatho » Mer 17 Tach 2010 12:44 pm

Rhowch enghraifft i mi o 5 band da indie rock, cyffrous, wreiddiol sy'n ddod o Gymru te...
Rhywfatho
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 17 Tach 2010 10:21 am

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Khmer » Mer 17 Tach 2010 12:51 pm

O'n i'n meddwl bod ti'n holi am fands sydd DDIM yn indie Rock?
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Rhywfatho » Mer 17 Tach 2010 1:07 pm

Yn hollol. Dwi yn holi amdan bands sy ddim yn indie rock. Ond drio neud pwynt ydw i, bod na ddim ddigon o bandiau sy'n amgen ac yn wreiddiol.
Mae'n amhosib drio enwi bandiau cyffrous sy'n indie roc achos does na ddim!
Ond hei, ella arwydd o amser ydi o - fod cerddoriaeth di symyd ymlaen gymaint. Yn an aml iawn y welwch chi fand ifanc amgen. Just bach yn drist ydw i. Heb law am y hogiau Jeniro, does na ddim fandiau ifanc amgen o gwmpas y wlad ma. Biti, os da chi'n edrych yn dol i fandiau fel y Gorky's, Ffa Coffi ayyb ac yn gymharu nhw efo bandiau 'from the now.' Mae'n shit yndi. Llawer o ddim byd fel na dyddia ma :(
MAE NA PETHE DA - jyst ddim digon o bethe da! Rhai or fai yn fynd tuag at y rhaglenni shit sydd ar C2?
Rhywfatho
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 17 Tach 2010 10:21 am

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Khmer » Mer 17 Tach 2010 1:31 pm

dwi ddim yn cytuno am y peth C2. Heblaw am C2, fyse ti fyth wedi clywed am Ffa Coffi, euros Chids, racehorses, na dim byd amgen arall o gwbwl achos fyse Radio Cymru dydd fyth yn ei ddarlledu oherwydd bod nhw'n rhy saff. A bob tro dwi'n tiwnio mewn i C2 dwui yn clywed cerddoriaeth ffresh a newydd sydd ar y sin, newydd gael ei rhyddhau ac yn cael gwybod am fandiau newydd sydd wedi sefyldu na fyswn i fyth yn gwbod am ar unrhyw orsaf neu sianel arall.

Ond nol at y pwynt, Ma'r Ods yn dda, creision hud yn dda a hefyd band gymharol newydd The Unknown yn arbennig o dda - nes i weld nhw'n fyw ddim sbel yn ol, gwych. Y violas hefyd yn fand eitha amgen newydd sy'n cynhyrchu lot o swn da.

Yna ma' gen ti'r twf mawr o gerddoriaeth electro dawns a phop sydd wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf gyda artistiaid/cynhyrchwyr/bands fel Cyrion, Crash Disco, Haku Tokinawa, El parisa, Swci, Plyci, Messner, Cloud Formations & Clinigol i enwi ond rhai. Ti di gweld rhai o rhain yn fyw? Os ti heb, Ma' cyrion yn chware ynn Clwb Nos Sadwrn - cer draw, dwi'n addo cei di dy gyffroi.
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Meri » Mer 17 Tach 2010 1:34 pm

Mae mwy o amrywiaeth o gerddoriaeth nag erioed o'r blaen yn y SRG yn fy marn i.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Rhywfatho » Mer 17 Tach 2010 1:58 pm

Diolch am ychwanegu i'r thread.
Cytuno'n llwyr efo ti amdan dy bwynt ynglyn a C2. O'n i'n anelu fy ngeiriau tuag at rhaglenni fall a Magi Dodd rili. Mae gan C2 rhaglenni da fel sioe Huw Stephens. Mae o yn bendant o chwarae cerddoriaeth amgen, newydd, cyffrous chware teg iddo fo. Ond mae rhaglenni fall a un Magi Dodd yn em-bar-a-sing!
I fod yn hollol onest, dwi wedi clywed stwff gen rhan fwya or fandiau na. Dwi ddim di clywed The Unknown. Oes gen ti link i safle myspace nhw? Dwi di trio ffeindio nhw dros google ond mae na tua 5 band hefo'r un un enw....
Hakutokin4wa yn diddorol. Wedi gweld nhw'n fyw cwpl o weithia wan. Swci, Cloud Formations yn cwl. Y gweddill, wel, mae nhw gyd yn dda. Ond dim byd newydd rili :wps: Ond cofia bod mond barn fi di hwnna, allai dderbyn yn iawn bod nhw'n dda ac yn dyn, ond fel ma nhw'n ddeud 'not my cup of t'
Ai i lawr i clwb nos sadwrn ta :) Diolch!


Sori meri, rhaid i mi anghytuno hefo dy post ma gen i ofn.
Rhywfatho
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 17 Tach 2010 10:21 am

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Sioni Size » Mer 17 Tach 2010 2:09 pm

Dwi'n meddwl y byddi di'n hoffi albwm newydd Dau Cefn fydd allan yn fuan.

Byswn i'n rhoi Yr Angen, Y Cyfoes, Sensegur a Breichiau Hir yn sicir yn y categori bandiau 'indie' newydd da sy'n codi.

Mae'r term Indie yn troedio tir anferth - o nonsens by numbers fel Killers i bethau moel gwych fel Pixies. Mae cega ar indie fel genre yn eitha cul. Byddai llawer yn rhoi rhai o'r grwpiau wyt ti'n frolio i ddechrau yn y categori indie, er enghraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Sin amgen Cymru?

Postiogan Rhywfatho » Mer 17 Tach 2010 2:19 pm

Heb glywed am Sensgur na Dau Cefn. Oes gen ti links i myspace nhw dyn?
Cytuno'n llwyr efo dy geiriau amdan 'indie' ddo. Bendant yn weld lle ti'n ddod o. Ella jyst fi sy'n weld pethe'n wahanol ynglyn a genres a ballu.
E.e - rhai pobl yn ddeud bod stone roses yn indie, sy'n ddigon teg, ond fel dwi'n weld o, di stone roses ddim yn indie o gwbl yn fy marn i.
Rhywfatho
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 17 Tach 2010 10:21 am

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron