Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Ramirez » Mer 19 Ion 2011 3:21 pm

Meri a ddywedodd:I ateb Ramirez : Mae angen creu y galw. Diffyg cynulleidfa ydy'r broblem ond sut mae mynd ati i ddenu cynulleidfa newydd os nad oes na gigs yn cael eu cynnal, ac os nad ydy'r math o gerddoriaeth sy'n apelio at bobl ifanc yn cael sylw ar y teledu a'r radio? Os ydy pobl yn gwneud dim ond derbyn pethau fel y maen nhw does na ddim datblygiad yn mynd i fod.


Cytuno i raddau. A dyna pam oedd gigs fel Morgan Lloyd yn gret, a'r gwyliau oedd Dil yn neud - Gardd/Pentre Coll etc - mi oedd na ddiddordeb a mi oedd na gynulleidfa. Ond dim ond lhyn a hyn o le sydd i gigs o'r fath. Os oesna gannoedd o gigs bach yn cael eu trefnu, mae'r siawns o fedru talu artisitiaid yn iawn yn mynd i ddirywio i ddechrau arni. Yn y pendraw, fedr neb fforddio chwarae gig ar golled bob penwythnos.

Dwi'n meddwl bod llond llaw o gigs cyson sydd wedi eu sefydlu yn beth iachach - fel oedd yn digwydd yn Morgan Lloyd, a fel sydd yn Clwb Ifor, neu Gigs y Gwach a'r math yna o beth.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Mer 19 Ion 2011 5:07 pm

Meri a ddywedodd:I ateb Ramirez : Mae angen creu y galw. Diffyg cynulleidfa ydy'r broblem ond sut mae mynd ati i ddenu cynulleidfa newydd os nad oes na gigs yn cael eu cynnal, ac os nad ydy'r math o gerddoriaeth sy'n apelio at bobl ifanc yn cael sylw ar y teledu a'r radio? Os ydy pobl yn gwneud dim ond derbyn pethau fel y maen nhw does na ddim datblygiad yn mynd i fod.

Dwi cytuno, angen cymysgu petha sydd dwi meddwl, ma rhanfwya o fobol rioed d clwad am Yr Ods neu Pentagram Cymraeg, mond rwin sy d baglu ar draws nw fel arfer neu nabod nhw. Ma isho nosweithia cerddoriaeth brif ffrwd saesneg efo miwsc cymraeg, fel bod pobol yn dod i wybod bod y cerddorion yn bodoli a fyddyn nhw yn nabod enw nw os ma nw gweld nw ar boster.
Ma giga cymysg swnion olreit ond i ddeud y gwir wrth drio plesio pawb withia da chi plesio neb. Ond os man meddwl mwy o miwsic dwi licio hwre ta jest dosnam hyd yn oed briwsionyn o un cerddor hip hop wedi mynd, arwan i LL LL cwpwl o withia y flwyddyn a y rapwyr odd yn rali S4C dim yw dim!
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron