Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd
Meri a ddywedodd:Mae na gryn ddiddordeb yn y sin roc Gymraeg a chryn ddilyniant mewn rhai ardaloedd beth bynnag. Daeth cannoedd o bobl ifanc i ddau gig dros y Nadolig un yn y Bedol, Bethel a'r llall yn Rascals, Bangor - y ddau le yn orlawn, wedi gwerthu allan. Yn anffodus dydy'r cyfryngau ddim yn llwyddo i adlewyrchu'r brwdfrydedd yma, na gwethfawrogi gwaith caled y grwpiau a'r bobl ifanc sy'n trefnu'r gigs yma. Digwyddiadau fel hyn sy'n bwysig i'r sin roc Gymraeg nid Gwyl Latitude, Gwyl Swn a Wakestock etc sy'n cael eu dyrchafu gan y cyfryngau.
ttomos a ddywedodd:Meri a ddywedodd:Mae na gryn ddiddordeb yn y sin roc Gymraeg a chryn ddilyniant mewn rhai ardaloedd beth bynnag. Daeth cannoedd o bobl ifanc i ddau gig dros y Nadolig un yn y Bedol, Bethel a'r llall yn Rascals, Bangor - y ddau le yn orlawn, wedi gwerthu allan. Yn anffodus dydy'r cyfryngau ddim yn llwyddo i adlewyrchu'r brwdfrydedd yma, na gwethfawrogi gwaith caled y grwpiau a'r bobl ifanc sy'n trefnu'r gigs yma. Digwyddiadau fel hyn sy'n bwysig i'r sin roc Gymraeg nid Gwyl Latitude, Gwyl Swn a Wakestock etc sy'n cael eu dyrchafu gan y cyfryngau.
Cytuno'n llwyr efo hun. O ni'n chwarae yn y ddau gig yma ac roedd yna dros 200 yn y ddau yn ogystal a atmosffer da yn y ddau. Dwi'n gwbod bysa trefnwyr y gigs ma wedi bod wrth ei bodd petai criw teledu/radio wedi dod i recordio chydig o'r bandiau yn y nosweithiau.
Hefyd mi odd yna son gyna am Masters in France. Nhw oedd yn headlinio y gig yn Rascals, Bangor gyda ni (Y Bandana) yn cefnogi (+ Y Cer, Scarabs a Tom ab Dan) a Crash Disco fel DJ. Gan edrych ar y line-up yna does dim un band hen ffash, os rhywbeth mwy o bwyslais ar roc/indie.
MELOG a ddywedodd:Mae nhw bob man ddo! Stwff gwibdaithaidd a rocllyd/indie a ella sblash o ska now and again ydir norm a man gallu mynd yn stel! Pam ddim Mr Phormula?? Hoax Emccee?? haha blin dwi achos ma miwsog dwi licio byth ar nunlla!!! GRRR!
MELOG a ddywedodd:Oes unrhywyn yn teimlo'n rhwystredig bod cerddoriaeth 'cyfoes' cymraeg yn cael ei hafalu efo bandiau acwsitg, traddodiadol, ffolksi-popaidd eu naws? Gellir ddweud oce wel dyma ydi prif ffrwd cymraeg... ond ydi hyn yn wir? Gall be ydi'r prif ffrwd gael ei benderfynnu gan pa fandiau sy'n cael eu hyrwyddo fwya...
Eisteddfod er engrhaifft, dim dum n bass, dim dubstep, dim hip hop a dyma be ma petha ifanc ma yn lecio gwrando arno dydia yma... Ma cymysgu genere 'seisnig' efo cerddoriaeth cymraeg DDIM yn 'bradychu ein diwylliant' ychwanegu ato mae ac yn pontio y gap rhwng cymru cymraeg sydd ddim wedi eu codi yn 'y pethe', iddyn nhw gael gweld cymraeg mewn cyd destyn ty allan i ddosbarth neu capel.
Y selar yn engrhaifft arall, dwi yn obsesed efo cerddoriaeth cymraeg ond ffracsiwn bychan os o gwbwl sydd yn son am y cerddoriaeth dwi efo diddordeb ynddo, a fel arfer ar y cyrion fel adolygiad pitw llwybr llaethog neu mc mabon ydi o..
Ydych chi'n cytuno? Trafodwch!!
Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 42 gwestai