Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Sul 02 Ion 2011 3:55 pm

Oes unrhywyn yn teimlo'n rhwystredig bod cerddoriaeth 'cyfoes' cymraeg yn cael ei hafalu efo bandiau acwsitg, traddodiadol, ffolksi-popaidd eu naws? Gellir ddweud oce wel dyma ydi prif ffrwd cymraeg... ond ydi hyn yn wir? Gall be ydi'r prif ffrwd gael ei benderfynnu gan pa fandiau sy'n cael eu hyrwyddo fwya...

Eisteddfod er engrhaifft, dim dum n bass, dim dubstep, dim hip hop a dyma be ma petha ifanc ma yn lecio gwrando arno dydia yma... Ma cymysgu genere 'seisnig' efo cerddoriaeth cymraeg DDIM yn 'bradychu ein diwylliant' ychwanegu ato mae ac yn pontio y gap rhwng cymru cymraeg sydd ddim wedi eu codi yn 'y pethe', iddyn nhw gael gweld cymraeg mewn cyd destyn ty allan i ddosbarth neu capel.

Y selar yn engrhaifft arall, dwi yn obsesed efo cerddoriaeth cymraeg ond ffracsiwn bychan os o gwbwl sydd yn son am y cerddoriaeth dwi efo diddordeb ynddo, a fel arfer ar y cyrion fel adolygiad pitw llwybr llaethog neu mc mabon ydi o..

Ydych chi'n cytuno? Trafodwch!!
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Meri » Sul 02 Ion 2011 4:21 pm

Roedd Bandit y noson o'r blaen yn ofnadwy o hen ffasiwn, diflas a chanol y ffordd. Mae na grwpiau roc ifanc, prysur, poblogaidd a brwdfrydig ar y sin ond dydy'n nhw'n cael dim sylw gan raglenni fel Bandit.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Ramirez » Sul 02 Ion 2011 4:55 pm

Onid ydi hip-hop a drum & bass yn eitha hen-ffash bellach?
Dwi ddim cweit yn dallt pam fod lot yn meddwl fod cerddoriaeth 'cutting-edge' bob tro yn gorfod bod yn electroneg.
Dwi wrth fy modd efo cerddoriaeth o bob math, d'n'b, hip-hop, pob math o electronica, country, roc, jazz, beth bynnag, ond dwi'n ei weld o'n drist weithia pan nad ydi cerddoriaeth yn cael bodoli ar ei liwt ei hun.

Weithia does 'na ddim angen gwneud rhywbeth 'newydd' - mae'n berffaith resymol gwneud rhywbeth am ei fod o'n dda, nid am ei fod o'n newydd. Dyna un o'r pethau mwya sgyno ni fel gwrandawyr - mae pob dim yna i'w werthfawrogi y tu allan i'r cyd-destun y cafodd o'i greu. Ella nad oeddet ti i fod i wrando ar prog rock os oeddeti'n lecio punk yn 1976. Tydi hynny ddim yn wir yn 2011. Dwi ddim yn mynd i fod yn gwrando ar y Sex Pistols rwan a chogio 'mod i'n 18 yng nghanol sefyllfa wleidyddol diwedd y 70au. Mae'r sefyllfaoedd a'r cyd-destunau wedi mynd, a dim ond y gerddoriaeth sydd ar ol. Dwi ddim yn cogio uniaethu efo Public Enemy, dwi jysd yn mwynhau'r records.

Mae cwyno am bethau yng Nghymru fymryn yn arwynebol dybiwn i - dwi'm yn teimlo ei fod o ddim gwahanol i nunlle arall, mond fod pethau'n fwy micro. Mae bob dim yn bodoli, mwy na heb. Tydi ffaith bod chwaeth rhai cynulleidfaoedd yn wahanol ddim yn fai ar neb. Mae lot o gerddoriaeth sy'n cael ei greu rwan yn y Gymraeg yn adlewyrchu be sy'n digwydd tu allan i Gymru - mae'r farchnad "acwstig, traddodiadol ffolksi-popaidd ei naws" yn aferth tu allan i Gymru, jysd na dim hynny ydi'r mainstream. Mae cerddoriaeth alt.Country neu Americana yn fwy "underground" na dubstep, mi elli di ddadlau.

A dwi ddim yn gweld "dylanwad y capel" yn gryf mewn pop Cymraeg, na diffyg elfennau o'r tu allan i Gymru chwaith. Dwi ddim yn meddwl fod rhywun sydd fel arfer yn canu efo jysd gitar acwstig, a fysa'n gallu cael ei ddisgrifio yn 'werinol, fel Gareth Bonello, wir yn fwy "traddodiadol Gymreig" (heblaw am y caneuon gwerin mae o'n eu canu, wrth reswm) na MC Mabon neu Llwybr Llaethog. Mae nhw i gyd yn hollol briliant, a mae eu dylanwadau nhw'n eang.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Sul 02 Ion 2011 7:07 pm

Ond ma rhaid cyfadda, mae y mainstream yng nghymru i raddau yn cael ei llywio gan pa gigiau sydd ar, be sy ar bandit ac yn y selar. Y rhyng gol, gigiau cymdeithas, maes-b, bandit a y selar.... dydw i erioed wedi darllen erthygl am lembo, gweld dim am JJ Sneed (DnB o bontypridd1 efo geiriau cymraeg!!) y Cyrion... lle oedd rhain yn y steddfod?
Does dim sens dweud ' mae un genere mwy cwl na'r llall' ond be sydd yn mynd ar fy nerfau yw mae'r SRG a'r sefydliada sydd yn ei bropio i fynnu i weld yn cefnogi yr un fath o beth rownd y ril, son ambell i with am bethau gwahanol ond byth yn eu trin gyda'r un sylw. Mae Crash.Diosco a Tokinawa neu bebynag ydi henwa nhw wedi cael sylw ond i mi dydi rhain ddim yn 'amgen' iawn eu naws chwaith, mae'r rocars, pyncs, dnb freaks a hipis dwb yn clywed be ydi engrheiffitiau o gerddoriaeth cymraeg ar bandit, gweld bod y cerddoriaeth ma nhw yn angerddol amdano ddim yn 'cyfiaethu' i'r gymraeg ac yn troi at fandiau yn yr iaith fain...
Ma petha fel radio amgen yn wych ond ma nhw few and far between! Mae'r ffansins sy'n cyflwyno petha felma hefyd fel arfer yn cael eu bachu gan pobol sydd fewn i'r petha yn barod a man fishys cycle! Dydi cerddoriaeth cymraeg ddim yn busnes mawr cyfalafol (diolch byth mewn ffor) i sblasho arian ogwmpas i hysbysebu grwpia cymraeg felly o'r chydig o lwyfanna sydd genym rhaid i ni fod yn decach dwi medwl de...
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Ramirez » Sul 02 Ion 2011 7:32 pm

MELOG a ddywedodd:Ond ma rhaid cyfadda, mae y mainstream yng nghymru i raddau yn cael ei llywio gan pa gigiau sydd ar, be sy ar bandit ac yn y selar. Y rhyng gol, gigiau cymdeithas, maes-b, bandit a y selar.... dydw i erioed wedi darllen erthygl am lembo, gweld dim am JJ Sneed (DnB o bontypridd1 efo geiriau cymraeg!!) y Cyrion... lle oedd rhain yn y steddfod?
Does dim sens dweud ' mae un genere mwy cwl na'r llall' ond be sydd yn mynd ar fy nerfau yw mae'r SRG a'r sefydliada sydd yn ei bropio i fynnu i weld yn cefnogi yr un fath o beth rownd y ril, son ambell i with am bethau gwahanol ond byth yn eu trin gyda'r un sylw. Mae Crash.Diosco a Tokinawa neu bebynag ydi henwa nhw wedi cael sylw ond i mi dydi rhain ddim yn 'amgen' iawn eu naws chwaith, mae'r rocars, pyncs, dnb freaks a hipis dwb yn clywed be ydi engrheiffitiau o gerddoriaeth cymraeg ar bandit, gweld bod y cerddoriaeth ma nhw yn angerddol amdano ddim yn 'cyfiaethu' i'r gymraeg ac yn troi at fandiau yn yr iaith fain...
Ma petha fel radio amgen yn wych ond ma nhw few and far between! Mae'r ffansins sy'n cyflwyno petha felma hefyd fel arfer yn cael eu bachu gan pobol sydd fewn i'r petha yn barod a man fishys cycle! Dydi cerddoriaeth cymraeg ddim yn busnes mawr cyfalafol (diolch byth mewn ffor) i sblasho arian ogwmpas i hysbysebu grwpia cymraeg felly o'r chydig o lwyfanna sydd genym rhaid i ni fod yn decach dwi medwl de...



Ond onid hynny'n wir am bethau yn Lloegr ac America hefyd? Mae'r cyfryngau mainstream dros y ffin yn hybu'r un pethau hefyd. Yr un artistiaid weli di yn y papurau newydd a'r cylchgronau. Oes, mae genti ambell gylchgrawn arbennigol, ond tydi cylchrediad y rhain ddim digon mawr i allu canolbwyntio'n llwyr ar bethau newydd ac amgen.
Mae Bandit wedi bod yn o lew ar hyd y blynyddoedd o ran amrywiaeth mewn steils, ond diwedd y gan ydi mai rhaglen deledu ydi hi, sydd yn gorfod ceisio apelio at gynulleidfa. Mae'r un fath efo unrhyw gyfrwng - os oes angen gwneud proffid neu gyfiawnhau bodoli, mae'n rhaid apelio, a'r ffordd hawsa i wneud hynny ydi dangos be sy'n boblogaidd yn barod.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Sul 02 Ion 2011 7:36 pm

Ond dydi'r ffaith bod yna mainstream yn rhoi bwyslais anheg ar pa bynnag gyfrwng ydi'r un sydd efo pres tu ol idda nw (achos dyna'r unig eglurhad dros unrhyw mainstream, dydi un genere ddim gwell na gwaeth na llall) yn anheg dim ots os mae o digwydd bob man arall hefyd? Yng nghymru lets face it grantia a insentives gan y wladwriaeth sy propio fynnu llwyfana am gerddoriaeth cymraeg, dim cyfalafwry fel yn y mainstream eingl americanaidd... does gennyn nhw ddim cyfrifoldeb bod yn gytbwys os hynnu?
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Ramirez » Sul 02 Ion 2011 7:56 pm

MELOG a ddywedodd:Ond dydi'r ffaith bod yna mainstream yn rhoi bwyslais anheg ar pa bynnag gyfrwng ydi'r un sydd efo pres tu ol idda nw (achos dyna'r unig eglurhad dros unrhyw mainstream, dydi un genere ddim gwell na gwaeth na llall) yn anheg dim ots os mae o digwydd bob man arall hefyd? Yng nghymru lets face it grantia a insentives gan y wladwriaeth sy propio fynnu llwyfana am gerddoriaeth cymraeg, dim cyfalafwry fel yn y mainstream eingl americanaidd... does gennyn nhw ddim cyfrifoldeb bod yn gytbwys os hynnu?


Cytuno'n llwyr nad oes un genre'n well nac un arall. Ond grantiau neu beidio, mae'r llwyfannau yma ti'n son amdanynt yn aml iawn dal angen gwneud arian, ac felly yr artistiaid sydd yn gwerthu/denu sylw fydd yn cael y llwyfan.

Mae o yn anheg ar un ffurf, ydi, ond poblogrwydd sydd yn gwneud rhywbeth yn mainstream. Tydi'r afrej Joe ddim yn lecio Stockhausen, ond mae o'n lecio Susan Boyle.

Ar wahan i ambell lwyfan mawr, mae'r rhan fwyaf o gigs yng Nghymru yn digwydd mewn tai tafarn sydd ddim cweit yn addas ar gyfer bandiau, ond mae nhw'n digwydd, a dim jysd yr artistiaid sy'n cael mwy o sylw ar y radio a'r teledu sydd wrthi chwaith.

Dwi yn cytuno efo dy bwynt y dylai tegwch gael ei roi i bob arddull os ydi arian cyhoeddus yn y cwestiwn, ond fel mai hi nid dyna ydi amcan a nod bodolaeth Radio Cymru (nac S4C petai hi'n dod i hynny). O ba bynnag le y daw'r arian, y ffigurau gwrando/gwylio sy'n cyfri.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Sul 02 Ion 2011 8:32 pm

Ond cwestiwn ydi pam bod un peth yn mainstream a llal ddim? dio 100%i neud efo swn y miwsig.. os mae mainstream cymru yn wahanol i'r un eingl americanaidd mae hynyn brawf nad ydi un math o fiwsig yn gynhenig mainstream.... y ffaith ydi y rhai sydd efo'r pres i gael llwyfan yw ffactor bwysig yn penderfynnu be ydi'r mainstream, y rheswm mai gwibdaith a cowbois ydi'r mainstream ydi achos dymar grwpia syn cael sylw! self furfiling prophecy innit
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan pop-cymru » Sul 02 Ion 2011 9:11 pm

Wow rhywyn arall wedi mentro deud "Canol y Ffordd"

Mae gan y cyfryngau llawer iawn o ddylanwad ar y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Rhaid sbio nol ar ddylanwad Fideo 9 yn y 90au.
Yn ol "urban myth" roedd un fideo ar fideo 9 yn costio yr un faint a mae rhaglen o gyfan gerddoriaeth pop ar S4C heddiw.

Dwi di bod yn meddwl pam fod y sin acwstig wedi tyfu mor gryf yn Nghymru ar drael genres eraill tebyg i gerddoriaeth dawns neu roc.
Does gennai ddim tystiolaeth pendant on yn ganol nos pan dwi'm yn gallu cysgu mae'r theoris ma yn mynd rownd fy mhen i.
Ydi hi'n :

- Rhatach genud sesiwn acwstic ar y radio ac yn cymeryd llai o amser. Llai o back line iw gario mewn, dryms iw gosod ai meicio ayb

- Haws recordio traciau acwstic mewn stiwdios bach cartref.

- Rhatach talu am unigolyn nac i fand cyfan a talu am westy a'i costau.

- Cymeryd llai o amser i ffilmio fideo's acwstig.

- Ydi'n gostus cynal gigs mawr ar gyfer ein bandiau mwy - cwmniau PA, goleuadau, diogelwch.

- Os nad oes yna gynulleidfa ddigonol ydio'n edrych yn well o flaen band acwstig gan ei alw yn gig clos.


Dwi wedi bod yn sylwi ar hyn ers ryw 4 mlynedd ac wedi gweld datblygiad sin acwstig gref a thalentog iawn, ond dim pawb sydd yn hoffi y math yma o gerddoriaeth.

Rwan dwi ddim yn beio neb am hyn ond mae'n rhaid i bethau newid, ac nid y cyfryngau yn unig fydd yn newid hyn.

Dwi'n amau mae ysgolion ac mudiadau fel yr Urdd a'r ffermwyr ifanc fydd ar gallu i newid y sin i fod yn un fwy aml genre.

Pam o ni yn ysgol roedd yna bwyslais mawr ar y sin roc Gymraeg gyda'r ysgol yn trefnu gigs Cymraeg, posteri bandiau ar y waliau, athrawon yn fodlon mynd a bysys i gigs ar adran gerddoriaeth yn anog plant i berfformio be bynnag oedd y genre. Roedd agwedd fel hyn yn creu perfformwyr da ac hefyd cynulleidfa a dilynwyr cref.

Mi fyddai mudiadau Cymreig tebyg i'r Urdd ar ffermwyr ifanc yn gallu creu yr ymwybyddiaeth sydd ei angen i hybu y sin a'i werthu i'r genedlaeth nesaf. Mae Glanllyn a Llangranog wedi bod ganolbwynt i hybu y sin ers y 60au gyda disgos Cymraeg, posteri ar waliau, a bandiau a caneuon yn cael ei creu yno.
Mae'n rhaid trochi yr ifanc yn y sin Gymraeg a'i hybu i greu cerddoriaeth a mynd i weld a gwrando ar gerddoriaeth.
Gyda cynulleidfa y daw arian ac yna sylw y cyfryngau.

Er mod i wedi esgusodi y cyfryngau yn y paragraff uchod mae ganddynt le yn y datblygu.
Mae'n rhaid iddynt fuddsoddi yn y dyfodol a dilyn strategaeth a ddilynwyd gyda Fideo 9 ar Bocs gan gydweithio gyda'r mudiadau uchod a buddsoddi yn arianol mewn fideos a sesiynau iawn (nid rhai acwstic).

Cytuno neu anghytuno mae'n rhaid buddsoddi i greu sin Gymraeg.

Fel ddedodd y Jylopis 20 mlynedd yn ol

" Mae'r amser wedi dod i symud ymlaen,
Y 90au wedi dod rhaid siarad yn blaen,
Mae angen grwf ar y sin yn Nghymru,
Dim digon ohonno, rhaid dysgu a datblygu"

Da ni wedi bod yma or blaen.

Pop Cymru

http://pop-cymru.blogspot.com
pop-cymru
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2010 9:49 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Sul 02 Ion 2011 10:13 pm

be ydi fideo 9? oeddwn i'n blentyn yn y 90'au a eden a mega oedd unig gerddoriaeth cymraeg oni'n wybod am (o fynd i weld nhw efo'r ysgol!) a efo'r toriadau arafeithedig (er dwi'n credu dylwn ni wrthwynebu nhw'n llwyr) allwn ni ddibynu ar y wladwriaeth propio y sin ifynnu? mae anen i ni'r anoracs miwsic cymraeg roi fynnu ger a trio trefnu petha, refs yn y chwareli fatha odd yn llanber erstalwm! byddi'n dda i stwff cymraeg fod llai sefydliadol a mwy tanddearol- yn adweithio yn erbyn sefydliadrwydd mae plant o aelwydau saesneg yn gweld y gymraeg fel peth ysgol...
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron