Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Ramirez » Maw 04 Ion 2011 5:19 pm

Ella fod hyn fymryn oddi ar y drafodaeth wreiddiol ond dyna ni:

Dwi'n teimlo weithia ella bod na ormod o bwyslais ar fand i "wneud rhywbeth ddigwydd" - does dim rhaid i artist gigio - tydi hynny'n eu gwneud nhw ddim gwaeth - a tydi pa mor weithgar ydi band o ran trefnu a gigio ddim yn berthnasol o gwbwl i safon y gerddoriaeth.

Dwi ddim yn ei gweld hi'n ddyletswydd ar y Steddfod etc. i adlewyrchu unrhyw sin, achos mae hi'n rhan o'r "sin".

Dim gigs a llefydd i chwarae ydi bob dim - mae perffaith hawl gan gerddor fod isho gwneud cerddoriaeth heb orfod bod isho chwara'n fyw. Pa otsh nad ydi MC Mabon na Ll.Ll yn weithgar iawn ar hyn o'r bryd? Os ydyn nhw isho rhyddhau un albym bob 20 mlynedd a byth chwarae gig eto, bedi'r otsh? Tydi hynny ddim yn eu gwneud nhw'n llai dilys fel artistiaid.

Tydi creu cyffro a sin yn da i ddim os nad ydi'r miwsig yn gret - fel ddudishi, mewn blynyddoed mi fydd y cyffro yn anghof, a dim ond y miwsig fydd ar ol.

Dwi hefyd yn ofni weithiau bod gigs fel y rhai soniwyd amdanyn nhw cynt (Rascals a'r Fricsan) yn gallu rhoi false sense of security weithiau - dwi'n meddwl ei fod o 'run fath pan oedd Cowbois yn chwarae yn Sarn, neu Derwyddon yn unrhywle o gwmpas Bangor/Caernarfon rhyw ddwy flynedd yn ol - oedd, roedd y gigs yn packed ac yn gret, ond mewn gwirionedd, sawl un o'r gynulleidfa oedd yn ffrind, neu'n ffrind i ffrind? Y rhan fwyaf. Dwi ddim yn deud bod yr un peth yn wir am y gigs yma, ond mae gan Bandana gang o ddilynwyr yn debyg i be oedd gan Derwyddon, sydd yn beth ffantastig. Ond mae o hefyd yn golygu fod gan y bandiau yna siawn i chwara gigs packed yn lleol, tra fysa band arall ddim yn cael yr un gynulleidfa o bosib.


I fynd yn ol at Bandit - dwi'n ei weld o'n rhyfedd iawn bod band fel Colorama yn cael eu lluchio i mewn i'r un crochan hen-ffash a Gwibdaith, Cowbois a Dafydd Iwan - mae Colorama yn cut-above bron pawb sydd o gwmpas fel cerddorion, a mae eu stwff nhw ar brydiau yn fwy left-field ac arbrofol na rhan helaeth o'r stwff electroneg sydd o gwmpas.

Mae "adlewyrchu'r sin" yn ofyn rhyfedd yn fy nhyb i - mae pob dim, y Steddfod, Bandit, C2, pob gig, pob band, yn rhan o'r sin.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Rhys Aneurin » Maw 04 Ion 2011 6:18 pm

Ramirez a ddywedodd:Mae "adlewyrchu'r sin" yn ofyn rhyfedd yn fy nhyb i - mae pob dim, y Steddfod, Bandit, C2, pob gig, pob band, yn rhan o'r sin.



Dwnim de, er swnin cytuno yn amlwg eu fod nhw'n rhan o'r sin, rhaid cyfaddef taw pwrpas yn rannol i rhaglen deledu neu sioe radio cerddoriaeth yw adlewyrchu be sy'n digwydd / be sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Maent yn bwydo ac yn sbio dros be sy'n digwydd yn y sin ar yr un pryd mewn ffordd.

A dwi'n cytuno efo Sen Segur, roedd yna amrywiaeth da iawn ar Bandit Dolig oni'n meddwl. Mae Bandit yn neud job dda i gysidro taw dim ond 4 sioe sydd ganddyn nhw. Petai'n cael ei ddarlledu'n wythnosol unwaith eto, dwi'n hyderus fysa llawer mwy o artistiaid yn cael sylw. Tydiom byd i wneud efo "hen ffash" neu bod yn fwy un-ochrog at un steil na'i gilydd.

Rhaglen SRG wythnosol ydi'r ateb!!
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan dil » Maw 04 Ion 2011 7:06 pm

am unwaith ac alle am y tro ola ie rhys t yn niawn
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Maw 04 Ion 2011 8:13 pm

Cytuno gan yr artistiad hawl i wneud dim ond gan fod cerddoriaeth cymraeg dim pres felly gigio ydi'r ffor dd o gael pobol clywed eu tiwns nhw... dim bai ni ydio bod cerddoriaeth yn ein hiaith ddim yn 'comercial' ond ma rhaid i fandia gweithio i neud fynnu am hyn neu ymylol fydd cerddorieath nhw o hyd, dwi reit siwr mae 70% pobol sy'n ymwybodol o'r sin, mynd i gigs ac ati yn deuku a ffrindia, achos pwy cyffredin neith wario 10 punt ar cd cymraeg heb glwad sut ma'n swnio gynta? Neb a ma nhw yn cael eu gwerthu mewn siopau eith rhanfwya o gymru byth idda nhw..
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Sul 09 Ion 2011 5:50 pm

bla bla bla bla bla bla....

bla bla bla bla bla bla...

o ia ___________ bla bla hefyd

zzzzzzzzzzzzz
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Llun 10 Ion 2011 2:06 pm

Reu Rhaw Gyffes a ddywedodd:bla bla bla bla bla bla....

bla bla bla bla bla bla...

o ia ___________ bla bla hefyd

zzzzzzzzzzzzz




you wot???
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Pethe Coll » Maw 11 Ion 2011 10:35 am

d Reu Rhaw Gyffes yn rhy cwl i drafod y sin ac yn trio deud wbeth am bobl sy yn i drafod?
Pethe Coll
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 266
Ymunwyd: Maw 17 Maw 2009 2:22 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan MELOG » Maw 11 Ion 2011 9:29 pm

Pethe Coll a ddywedodd:d Reu Rhaw Gyffes yn rhy cwl i drafod y sin ac yn trio deud wbeth am bobl sy yn i drafod?

oooooooo iawn, boring di bid yn cwl ma raid! falch o fod yn ffrici :seiclops:
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Mer 12 Ion 2011 1:08 pm

Cwl? Uh? Boring? Faint o weithiau mae'r drafodaeth yma wedi bod ar Maes-e? Hynny sy'n boring.

Falch o glywed bod llnau toilets yn ffatri bogrol Penygroes yn cwl! :lol:
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Gor bwyslais ar yr hen ffash?

Postiogan Ramirez » Mer 12 Ion 2011 1:14 pm

Reu Rhaw Gyffes a ddywedodd:Cwl? Uh? Boring? Faint o weithiau mae'r drafodaeth yma wedi bod ar Maes-e? Hynny sy'n boring.


Pam cyfrannu ta? Os ti wedi weld o i gyd o'r blaen, be ydi diben postio negeseuon gwirion yn fa'ma? Yn amlwg mae'r drafodaeth yn newydd i rai yma. Be di'r broblem efo hynny?

Wir, be ydi diben postio "bla bla bla..." mewn trafodaeth? Be oeddati'n fwriadu gyflawni?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron