MELOG a ddywedodd:Ond cwestiwn ydi pam bod un peth yn mainstream a llal ddim? dio 100%i neud efo swn y miwsig.. os mae mainstream cymru yn wahanol i'r un eingl americanaidd mae hynyn brawf nad ydi un math o fiwsig yn gynhenig mainstream.... y ffaith ydi y rhai sydd efo'r pres i gael llwyfan yw ffactor bwysig yn penderfynnu be ydi'r mainstream, y rheswm mai gwibdaith a cowbois ydi'r mainstream ydi achos dymar grwpia syn cael sylw! self furfiling prophecy innit
Dwi'n cytuno i raddau helaeth a dy bwynt, ond dwi hefyd yn teimlo fod yr artistiaid llai mainstream YN cael dipyn o sylw. Mae o yn hanfod y math yna o gerddoriaeth mai'r bobol sy'n ei lecio ac isho ei glywed sy'n mynd i'w ffendio - tydi stwff mwy amgen erioed wedi hawlio sylw pawb. Os ydi rhywun yn hoffi cerddoriaeth arbennigol, yna mi awn nhw i chwilio amdano.
O sticio at y fyd roc a gitars am eiliad, un o'r artistiaid sydd o bosib yn swnio fwya 'cyfoes' ar hyn o bryd ydi Masters In France, ac mae nhw hefyd yn cael llwyth o sylw. Yr un peth efo'r Ods - ma gyny nhw swn sy'n ffitio efo be sy wedi bod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf dros y ffin (ac uffarn o ddawn sgwennu y tu ol i'r swn yna, os cai ddeud), ac mae nhw hefyd yn cael lot o sylw, a hwnnw'n sylw cwbl haeddiannol.
O ran Cowbois - tyda ni erioed wedi sgwennu er mwyn trio bod yn mainstream na chael sylw - digwydd bod mai'r swn ydani'n hoffi ei greu ydi swn sy'n dilyn ol-troed gwerin/Americana, Neil Young, Gram Parsons, 'chydig o stwff Geraint Jarman etc. ac yn y stwff felly mae cryfder Iwan fel cyfansoddwr. Ma'r math yna o fiwsig yn ddileit i ni, ond ymhell o fod yr unig byth ydani'n wrando arno fo.
O ran pwynt pop-cymru efo sesiynau acwstig - mae'n bwynt diddorol, ond dwi'n meddwl mai'r gwir amdani ydi fod yna lot o gerddorion sydd isho gwneud stwff mwy gwerinol/rootsy, yn hytrach na'i fod yn fwy cyfleus. Mae 'na dipyn o adfywiad efo pethau felly wedi bod yn ddiweddar beth bynnag, felly yn hynny o beth mae o'n adlewyrchu be sy'n digwydd tu allan i Gymru yn hytrach na bod yn rhywbeth cynhenig Gymreig.
Ac ar nodyn personol, dwi'n gweld gigs "acwstig" yn fwy o strach na gigs arferol!
Dwi yn cytuno efo'r ddau ohonochi i raddau helaeth, a fysa dim byd gwell gen i na chael mwy o gerddoriaeth o bob math ar Radio Cymru ac S4C, ac mae'n wir fod gan y cyfryngau bwer i raddau o ran penderfynu be sy'n boblogaidd neu ddim. Ond dwi ddim yn teimlo ei bod hi'n deg dweud bod dyletswydd arnyn nhw i wneud dim. Mae'n well gen i raglen radio lle mae'r DJ yn dewis y gerddoriaeth ei hun yn hytrach na playlist er mwyn trio cynnwys pob dim, a dyletswydd cwmni teledu ydi creu rhaglen deledu, nid ceisio hybu diwydiant arall.