Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd
Ramirez a ddywedodd:Mae o'n dweud cyfrolau mai cerddorion ydi'r rhan fwyaf sy'n ymateb i edefyn fel hyn.
ceribethlem a ddywedodd:Ramirez a ddywedodd:Mae o'n dweud cyfrolau mai cerddorion ydi'r rhan fwyaf sy'n ymateb i edefyn fel hyn.
Mae rhai ohonom ni'n mynd yn rhy hen i fynychu gigs yn rheolaidd
Ramirez a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Ramirez a ddywedodd:Mae o'n dweud cyfrolau mai cerddorion ydi'r rhan fwyaf sy'n ymateb i edefyn fel hyn.
Mae rhai ohonom ni'n mynd yn rhy hen i fynychu gigs yn rheolaidd
!
Be oni'n feddwl ydi bod na bosibilrwydd ein bod ni fel cerddorion yn poeni gormod am stad gigio yn aml, ac yn rhy barod i weld bai. Os nad oes na lot o ddiddordeb yna dyna fo, does na ddim lot o diddordeb. Dwi'n meddwl bod yn rhaid derbyn y llanw a thrai i raddau, yn hytrach na gweiddi mwrdwr. Chwilio am ffynonellau gwahanol fel cerddorion.
Dwi'n siwr bod cynulleidfaoedd lot o gigs Cymraeg yn agos at fod yn 50% o gerddorion. Meiddied neb a gweld bai ar bobol sydd ddim yn gerddorion am beidio cymryd diddordeb. Dio ddim yn fai ar neb, dio ddim yn gynhenid i Gymru, jysd felna mae hi. Tydi trio cael cyn gymaint o bobol a phosib i drefnu gigs eu hunain yn mynd i neud ffac-ol o les yn y pendraw, tydi'r galw ddim yna.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yn hytrach na threfnu gig 'hip hop' yn Gymraeg (o bosib gyda cynulleidfa weddol fach), oni fyddai yn well cael bandiau o genres amrywiol i gymryd rhan mewn gigs Cymraeg? Dyna be oedd 'abri' yn gwneud blynyddoedd yn ol yng Nghaerdydd ac roedd yn lwyddiant mawr. be sy'n bod ar Mr Phormula, Colorama, Yr Ods a Geraint Lovgreen yn chwarae mewn un gig e.e? Rhywbeth i blesio pawb, a bach o addysg gerddorol i bawb ar yr un pryd!
Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 14 gwestai