Meri a ddywedodd:I ateb Ramirez : Mae angen creu y galw. Diffyg cynulleidfa ydy'r broblem ond sut mae mynd ati i ddenu cynulleidfa newydd os nad oes na gigs yn cael eu cynnal, ac os nad ydy'r math o gerddoriaeth sy'n apelio at bobl ifanc yn cael sylw ar y teledu a'r radio? Os ydy pobl yn gwneud dim ond derbyn pethau fel y maen nhw does na ddim datblygiad yn mynd i fod.
Cytuno i raddau. A dyna pam oedd gigs fel Morgan Lloyd yn gret, a'r gwyliau oedd Dil yn neud - Gardd/Pentre Coll etc - mi oedd na ddiddordeb a mi oedd na gynulleidfa. Ond dim ond lhyn a hyn o le sydd i gigs o'r fath. Os oesna gannoedd o gigs bach yn cael eu trefnu, mae'r siawns o fedru talu artisitiaid yn iawn yn mynd i ddirywio i ddechrau arni. Yn y pendraw, fedr neb fforddio chwarae gig ar golled bob penwythnos.
Dwi'n meddwl bod llond llaw o gigs cyson sydd wedi eu sefydlu yn beth iachach - fel oedd yn digwydd yn Morgan Lloyd, a fel sydd yn Clwb Ifor, neu Gigs y Gwach a'r math yna o beth.