gigs Morgan Lloyd yn dod i ben

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

gigs Morgan Lloyd yn dod i ben

Postiogan Pethe Coll » Iau 06 Ion 2011 11:36 am

dim ond dau gig fydd eto cyn i'r Morgan Lloyd,Caernarfon newid dwylo.
noson acwtic ionawr 28ain a gig ola ar y 18fed o chwerfor.
maylion i ddilyn am rhain yn y fforwm gigs.
diolch yn fawr i Angharad Annwyl y perchenog am gefnogi sin fyw yn Gaernarfon
dros y dwy flynedd dwytha ac i Geth Evs am cyd drefnu ar y cychwyn.
ac yn amlwg diolch ir bandie am wneud yr holl beth yn bosib ac i bobl am ddod a chefnogi.
mane gigs gwych wedi digwydd yno dros y ddwy flynedd dwytha ac man annodd dychmygu fod
gofid am y sin o fynd yno ar nos wener a gweld yr awyrgylch.
mane nifer o bosteri or gigs iw gweld ar llynie safle myspace gardd goll:
http://www.myspace.com/gwylgarddgoll
mane lot mwy dwi heb roi fynu hefyd.
fysen gret cal dwy noson ola arbenig felly neis bydde gweld chi yno.
braf fydde deud faint o gigs sy di bod yno er cychwyn pethe coll yno ond sgenaim syniad.
tua 130-140 dwi meddwl.
stopio malu cachu rwan.
ma gigs y llangollen,bethesda yn mynd i ddigwydd pob pythefnos a byth safle pethe coll newydd yn cal i cyhoeddi yn fuan.
Pethe Coll
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 266
Ymunwyd: Maw 17 Maw 2009 2:22 pm

Re: gigs Morgan Lloyd yn dod i ben

Postiogan Sioni Size » Iau 06 Ion 2011 2:41 pm

Delwedd

Nid am fod y gigs yn gorffen yn amlwg, am y gwaith da, diflino, dedwydd. Mae cymaint wedi bod ma'n teimlo fel mwy na dwy flynedd. Mae digon yn cwyno am y 'sin' fel mae a byddai ganddyn nhw le i gwyno go iawn pe na bai gigs y Morgan Lloyd wedi digwydd.

Da fod gigs Bethesda dal i fynd mlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: gigs Morgan Lloyd yn dod i ben

Postiogan Rhys Aneurin » Iau 06 Ion 2011 3:06 pm

Aii, cytuno, ma gigs Morgan Lloyd wedi bod yn beth gwych a iachus i'r sin byw. Oddi'n bleser i mi chwarae yna bob tro. Biti garw fod hynnu yn dod i'w ben.
Diolch mawr i Dil a Geth am ddechrau rhywbeth odd yn cyfrannu llawer iawn i'r SRG
Rhys Aneurin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 17 Mai 2008 12:33 pm

Re: gigs Morgan Lloyd yn dod i ben

Postiogan dimdiolch » Iau 06 Ion 2011 3:07 pm

trist iawn! o ni wastad yn trio amseru trips fi i gaernarfon i allu mynd i weld pwy bynnag odd yn chwarae ar y nos wener. o ni'n genfigenus iawn o bobol caernarfon o allu cal gigs da yn digwydd bob wythnos, am ddim.

pob lwc gyda gigs erill pethe coll!
www.myspace.com/breichiauhir
www.twitter.com/breichiauhir
Rhithffurf defnyddiwr
dimdiolch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 53
Ymunwyd: Llun 14 Ion 2008 11:44 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: gigs Morgan Lloyd yn dod i ben

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 06 Ion 2011 9:27 pm

Fel y bydd rhai o drigolion Sir Gaernarfon yn ei ddweud: stori gont :(
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron