Er gwyl 'teuluol' llynedd (Gwyl y Glaw), ma Gwyl Car Gwyllt yma ym Mlaenau yn de-funct braidd ers chydig flynyddoedd. Pam? Wel un elfen ydi'r Heddlu! Bendant! Oeddan nhw eisiau ni dynnu'r enw 'gwyllt' ohono gan ei fod yn anog bobl i fynd yn 'wyllt'.... (!) (i chi sy ddim yn gwybod, cerbyd i fynd a charelwrs adra o gwaith oedd y Car Gwyllt.... lawr inclen serth! Unigryw i Stiniog.)
+ Mae costau staffio'r awdurdodau / trwyddedu / diogelwch / ffensio a trio cal gwirfoddolwyr yn strach fyd....
Yn y bon, yr heddlu sy'n rhoi'r pwysau mwyaf... mae hyn yn fy arwain i ofyn os yda ni'n byw mewn ryw fath o 'police state'? Hefyd, wedi'r refferendwm, oes modd i'r Cynulliad newid agwedd / gyfraith ar y rheolau / pwysau hurt ma?
Os bydd hyn yn parhau, mi fydd yr awdurdodau yn chwarae rhan mawr ym marwolaeth diwylliant.... yn enwedig diwylliant gwyliau / cerddoriaeth Cymraeg sy''n rhan o'n hunaniaeth ni, ac yn rhoi cyfle i un ardal dangos ei ddoniau i weddill y byd. OK... mae rhai gwyliau dal i fynd, ond hoffwn wybod sut..... Sut? Be di'r gyfrinach?
Pam bod yr awdurdodau yn rhoi gymaint o bwysau ar rywbeth, sydd yn y bon, yn ddatganiad o ewyllys da.... yn ddathliad? Yn y byd sydd ohoni... mae pobl yn angen dathlu a chael hwyl a mwy na dim..... i uno. wps... ydw i wedi taro'r hoelen ar ei phen yn fana? Uno...... ydy nhw'n gwneud hi'n anodd i ni uno?..... yntai ymgais lejit i gadw pawb yn saff a diogel ydi o? "na chi.... arhoswch adra i wylio Eastenders..."
Trafodwch....