Plant Duw - Distewch, Llawenhewch
- Neges gan Plant Duw
Yma gwel y newyddion am ail albym Plant Duw, Distewch, Llawenhewch fydd yn cael ei ryddhau a'i lawnsio'n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Fawrth yr 2il o Awst yn nhafarn y Black Lion, Y Ddol, Heol Bersham, Wrecsam LL14 4HN (ger y Maes) ar label Sbrigyn Ymborth
Mae rhai o ganeuon Distewch, Llawenhewch yn bop pur y gellir ddawnsio’n hawdd iddynt. Ond, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, mae’r albwm yn llawn gwrthgyferbyniadau gyda caneuon hefyd yn myfyrio ar themau tywyll bywyd ac yn cynnwys offerynnau diddorol ac annisgwyl weithiau, fel y triongl a dulcimer Appalachiaidd ein cynhyrchydd enigmatig Sam Durrant.
Rydym wedi mwynhau creu Distewch, Llawenhewch ac yn edrych ymlaen at gael perfformio’r caneuon yn fyw i gynulleidfaoedd ar draws y wlad. Cafodd yr albwm ei recordio a’i gynhyrchu gyda brwdfrydedd ac arbenigedd yn Stiwdio Un, Rachub, yng nghanol golygfeydd hardd Eryri. Rydym yn dal i belydru o'r croeso cynnes a gawsom yno.
Bydd Distewch, Llawenhewch allan ddiwedd Gorffennaf, gyda Plant Duw yn gigio fel gwallgofiaid yn syth wedi i draed Conor gyffwrdd tir Cymru ar ol ei flwyddyn yn yr Affrig yn miniogi ei ddewiniaeth meddygol.
Mwynhewch (llawenhewch).
Rhys, Conor, Elidir, Myfyr a Sean.