henffych
Rydw i'n hynod lwcus i fod yn Ysgrifennydd ar Bwyllgor Apel Penarth gogyfer
a Steddfod y Fro "a'r Fro" 2012.
Rydyn ni yn frwd iawn i ddenu bandiau /artistiaid iaith gymraeg i Benarth
i berfformio; ma yn dafarnau lleol a diddordeb mawr a rydym am
gydweithredu a Ciwdod a Chymdeithas yr Iaith ac wrth gwrs
swyddfa'r Eisteddfod le mae hynny'n bosib, yn ogystal a mudiadau
eraill le mae hynny'n gweddu'r amcanion.
felly cysylltwch yn fuan os hoffwch chi berfformio ac eich bod chi
am gael ennill pres/costiau teithio achos yn amlwg bydde angen
fwy o drefnu at hynny.
byddwn i braidd yn gobeithio y gall bandiau Caerdydd dod draw am ddim
gan bydd unrhyw elw o'r nosweithi yn mynd at yr Eisteddfod;
bydd yna PA a hysbys go lew ar gael. Cyfryngau'r Cymry yn aros
yn eiddgar i weld pwy fydd am chwarae ar ol i ni ledu'r newydd
yn Wrecsam a chyn hynny i raddau.
Mae'n debyg y bydd gennym leoliad bob nos Iau tan mis Awst nesaf,
felly chi gerddorion drefnus, cysylltwch a mi gyda'r dyddiad delfrydol
gyda diolch
Dai Lingual
dailingual@gmail.com