postio stwff srg ar maes-e

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

postio stwff srg ar maes-e

Postiogan dil » Maw 18 Hyd 2011 9:58 am

alle fod hun yn beth amlwg i ddeud ond os pwynt postio gigs a ballu ar maes-e erbyn hyn?
does prin neb yn rhoi gigs fynu.
dwi'n teimlo bo fi'n hogio gan fod dim lot arall yno.
a does dim llawer yn edrych arna nhw chwaith.
a dim sylwadau byth.
os di maes-e di marw beth all gael ei neud?
dwi'n meddwl fod o o ddefnydd mawr ir srg.
dwi'n dallt fod pethe eraill arna fo de ond dwin siarad am fy ddiddordeb i.
be di barn eraill?
dwi fod i symud ymlaen fel pawb arall?
symud o'r fforwm Cymraeg i be llu?
peidiwch a deud facebook! (er wi ar hwnnw hefyd)
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: postio stwff srg ar maes-e

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Llun 24 Hyd 2011 10:42 am

Yn wahanol i bynciau eraill byswn i ddim yn cymryd llawer o sylw o'r nifer sy'n `edrych` i fewn iddo oherwydd does na'm angen edrych -mae'r wybodaeth i gyd yn y teitl.

Dyma ffigyrau y gigs bostiwyd ar Maes-E fesul blwyddyn:

2004 - 281
2005 – 618
2006 - 564
2007 – 528
2008 - 365
2009 – 277
2010 - 147
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Re: postio stwff srg ar maes-e

Postiogan dil » Llun 24 Hyd 2011 11:15 am

oes ne llai o gigs ne llai o bobl yn postio nhw ar maes-e?
ner ddau?
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: postio stwff srg ar maes-e

Postiogan osian » Llun 24 Hyd 2011 1:01 pm

SefydliadCerddoriaethGym a ddywedodd:Yn wahanol i bynciau eraill byswn i ddim yn cymryd llawer o sylw o'r nifer sy'n `edrych` i fewn iddo oherwydd does na'm angen edrych -mae'r wybodaeth i gyd yn y teitl.

Dyma ffigyrau y gigs bostiwyd ar Maes-E fesul blwyddyn:

2004 - 281
2005 – 618
2006 - 564
2007 – 528
2008 - 365
2009 – 277
2010 - 147

Nid mod i o gwmpas yr holl amser yna, ond dwi meddwl mai rhwng 2005 a 2007 oedd 'oes aur' maes-e 'de? Llai o bobl ar maes-e ers rhyw 2-3 mlynedd, gneud sens fod llai o bobl yn postio gigs. Dwnim faint yn llai o gigs sy'na dyddia yma, ond mi wni fod 'na lwyth o gigs sy ddim yn cael eu rhoi ar hwn erbyn hyn
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: postio stwff srg ar maes-e

Postiogan bobs » Sad 05 Tach 2011 9:03 am

fel un sy di arfer a lleifrifoedd dros y blynyddoedd dwin eitha hoffi 'r syniad o ddyfalbarhau yn wyneb apathi/ anobaith - oll yn enw creadigrwydd a mynegiant yr enaid sy'n dyheu am ystyr, pwrpas ac hunaniaeth.

ddyn.

er bod fb yn gyfleus mae'n drewi o unffurfiaeth ffasgaidd onid yw felly diolch, maes e am fod yn gyfrwng amgen a Chymreig i ni amaturiaid dosbarth canol sydd angen nofio'n forfilaidd yn y pyllau bach ambell dro a hefyd y gwir ddawnus (fel y boi oedd yn canu yn y dre neithiwr petai e ond yn canu stwff gwreiddiol yn lle covers parhaol.)..... ond mae'r x factor ac yna ma po faced analysis o'r Pethe. pegynnwn. safwn yn y bwlch?. na! dim ond mwydro. fel arfer.

ond mae na greu yn does .
a ni dal yma .
ond ma na bethe pwysig sy ddim yn cal ei drafod gan y lliaws. estrysiaid ydym.
a ma 'n calonne'n ni'n dwyllodrus yn y bon.

diolch eto maes e . lle i'r lleiafrifoedd.
bobs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sul 12 Meh 2005 4:21 pm
Lleoliad: caerdydd


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai