Mae'r frwydr yn parhau!
I roi'r peth mewn presbectif:
Cân 3 munud ar Radio Cymru: £1.65 + analogies circa £4.10 = £5.75 (tua 150,000 o wrandawyr)
Cân 3 munud ar Radio Wales: £2.85 + analogies circa £145 = £147.85 (tua 450,000 o wrandawyr)
I cân ar RC gael yr un chwarae teg a RW bydd rhaid iddo gael ei chwarae 35.36 gwaith yn fwy, er... mae nifer o wrandawyr RW mond yn 3 gwaith yn fwy na gwrandawyr RC. PRS yn Llundain sy'n gosod y graddfeydd 'ma, nid y BBC.
Gwlad y gân?
Dyfyniad o wefan Llywodraeth Cymru - "...yn creu cenedl deg a ffyniannus". Dy nhw methu gneud llawer o ddim gan nad yw'r PRS wedi ei ddatganoli.
Opsiynau - creu corff annibynol, rhoi mwy o bwysau ar PRS, rhoi pwysau ar San Steffan i roi pwysau ar PRS, cyfansoddi yn Saesneg gan obeithio gei di airplay! ..... jest derbyn y peth and move on.