Gwefan newydd - Disglair.net
Postiwyd: Sul 08 Ebr 2012 1:11 pm
Ar Ebrill 12ed mi fyddan yn lawnsio Disglair.net
Syniad y wefan yma ydi cael rhywle i roi y caneuon mae'r tri ohonom ni wedi bod yn eu sgwennu dros y blynyddoedd. Rydan ni wedi bod yn rhan o sawl prosiect / band ac o ganlyniad wedi hel casgliad helaeth o “tiwns” a ballu a rydan ni eisiau eu rhannu nhw efo chi. Mae ansawdd sain da i rhai or caneuon ond mae yna “demos” a stwff rydan ni wedi eu copio oddiar casets 20 mlwydd oed sydd ddim mor dda! Be sy'n bwysig ydi eu bod nhw ar gael os ydach chi eisiau nhw.
Mi fyddwn ni yn ychwanegu mwy o ganeuon ayyb i'r wefan yn rheolaidd, wedi eu rhannu i dudalen ar gyfer pob un o'r bandiau. Rydan ni'n lawnsio'r wefan drwy ryddhau 'Buzz!' gan Pry Cry. Hen bryd fyd! Nid yn unig fydd y "back catalogue" ar gael ond mi fydd cerddoriaeth newydd o brosiectau newydd rydan ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw hefyd ar gael.
Mi fydd hi'n bosib lawrlwytho 'Buzz!' am ddim.
Cofiwch ymuno â'r rhestr postio er mwyn cael gwybod am pryd mae cynnwys newydd ar gael (Rydan ni ddim yn mynd i roi eich manylion i neb arall).
Mwynhewch!
Gronw Roberts, Kerry Walters, Endaf Roberts.