Tudalen 1 o 2

Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfrannu

PostioPostiwyd: Mer 11 Ebr 2012 10:40 pm
gan yr hwyliwr
Gwyliwch ddyddiadau'r cyfrannwyr - does neb yn cymryd rhan. Trist fel ag y mae - caewch y lle i lawr, mae'n embaras erbyn hyn.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2012 3:05 pm
gan Chickenfoot
Mae Fesbwc ayyb yn gelynion cryf/elynion gryf (dal yn methu treiglo'n iawn!).

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2012 3:56 pm
gan dafydd
yr hwyliwr a ddywedodd:Gwyliwch ddyddiadau'r cyfrannwyr - does neb yn cymryd rhan. Trist fel ag y mae - caewch y lle i lawr, mae'n embaras erbyn hyn.

A faint wyt ti wedi gyfrannu i'r wefan? Gan mai dyma dy neges gynta o dan yr enw yma o leia. Neu ai troll wyt ti?

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Sul 15 Ebr 2012 1:37 am
gan Duw
Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw ffordd o guddio'r ffaith bod braidd dim cyfraniad yn cael ei wneud yn bresennol.
Serch hynny, mae 'n dal yn ffynhonnell ardderchog ar gyfer chwilio am wybodaeth.
A ddylwn ei dynnu? Dwi ddim yn meddwl.
A oes angen ei ysgwyd a ffeindio gwedd newydd iddo? Hoffwn feddwl - efallai rhwybeth mwy cymdeithasol.

Mae fforymau trafod i'w gweld yn hen ffasiwn mewn ffordd, yn enwedig wrth ystyried safleoedd fel Facebook, er mae nifer yn ffynnu. Bydd phpBB4 allan cyn bo hir (sail Symfony2) a phosib bydd hwn yn caniatàu mwy o nodweddion diddorol?

@hwyliwr

Pa syniadau sy 'da ti am safle trafod / cymdeithasol agored yn y Gymraeg? Cofia - er bod FB wedi'i fan-gyfieithu, dyw darganfod a dechrau trafod gyda thoreth o siaradwyr Cymraeg ddim mor hawdd.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Sul 15 Ebr 2012 2:46 am
gan Hen Rech Flin
Er mae dyma'i neges gyntaf mae'r hwyliwr yn gwneud pwynt digon teg. Rhyw pum - chwe blynedd yn ôl mi fûm yn danfon deg neu ragor o negeseuon y dydd i'r Maes, mae hynny wedi mynd lawr i neges neu ddwy'r flwyddyn bellach. Hwyrach ei fod yn rhan o natur y we bod ffurfiau o gymdeithasu / trafod yn newid gyda ffasiwn. Cyn ymuno a Maes-e yr oeddwn yn aelod o nifer o restrau e-lythyr ac yn cael hyd at fil o e-lythyrau'r dydd, rwy'n dal yn aelod o nifer o restrau tebyg ond yn cael dau neu dir ymateb dyddiol ganddynt bellach.

Pan oeddwn yn cyfrannu'n gyson i'r Maes yr edefydd wleidyddiaeth, hanes, crefydd ac iaith oedd fy hoff barthau fe wnaeth y blogiau dwyn y bri allan ohonynt . Bellach mae'r trafodaethau ar flogiau yn lleihau gan fod y Gweplyfr a Thrydar wedi dwyn eu tân - er bod Facebook yn ddechrau edrych yn hen ffasiwn braidd bellach hefyd.

Rwy'n credu bod yna golled i'r Gymraeg o symud oddi wrth barth naturiol Gymraeg fel Maes-e i lwyfannau eraill. Dim ond trwy'r Gymraeg bu modd cyfrannu i'r Maes. Y mae gennyf gyfeillion ar Facebook a dilynwyr ar Twitter sydd yn ddi-gymraeg, ac fel mewn tafarn pan fo naw Cymro Cymraeg yn cymdeithasu yng nghwmni un Sais yr ydym i gyd yn troi i'r Saesneg.

Yr wyf mor euog ac eraill am droi at y fain ar Facebook a Twitter, because I have English friends and followers! Os yw Maes-e bellach yn passé, mae angen creu Bro Gymraeg newydd ar y we er mwyn sicrhau nad yw Cymry Cymraeg yn dod i gredu mai Saesneg yw'r unig iaith "cyfoes" i gyfythrebu trwyddi ar gyfrifiadur a theclyn.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Sul 15 Ebr 2012 5:50 pm
gan Mali
Mae gen i lot i ddiolch i maes-e .
Dyma'r unig le ar y we oeddwn i'n teimlo'n gwbwl saff wrth sgwennu yn Gymraeg yn ôl yn 2004 !
Dwi 'di dod i adnabod a chyfarfod emmareese , ffrind da iawn , ac wedi medru rhoi ychydig o gymorth [ gobeithio :winc: ] iddi wrth ddysgu Cymraeg.
Hefyd mae'r 'maes' wedi bod yn gysylltiad gyda Chymru a'r pethau Cymreig.
A dwi hyd yn oed yn cofio Hen Rech Flin yn sgwennu yma am y tro cyntaf!! :)

Dyma syniad ....beth am i ni drio wneud oleiaf un cyfraniad yr wythnos ar maes-e ? :syniad:

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Sul 15 Ebr 2012 7:09 pm
gan Macsen
Wedi ysgrifennu cofnod blog hirfaith ar y pwnc fan hyn!

Mae'n dipyn o Catch-22 mewn ffordd dydi, does neb yn cyfrannu felly does dim byd i ymateb iddo, a does dim byd i ymateb iddo am nad oes unrhyw un yn cyfrannu.

Syniad ges i'n ddiweddar oedd cael ryw fath o Ddiwrnod Cyfrannu at Maes-E, fel y diwrnod Pethau Bychain. Y gobaith ydi y byddai pawb yn cyfrannu un neu ddau neges, a hynny'n denu ymatebion a'r cwbwl yn datblygu fel caseg eira o fan 'na.

Dw i'n deall y ddadl fod fforymau trafod yn colli defnyddwyr yn gyffredinol, tra bod Facebook a Twitter yn dwyn y darllenwyr. Ond mae modd cael trafodaeth gall ar Maes-e, sy'n anodd iawn ar Facebook a Twitter.

Efallai mae'r ateb yw sefydlu fforwm drafod ar wefan annibynol sy'n denu llawer o ddarllenwyr yn barod, e.e. Golwg 360?

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Llun 16 Ebr 2012 6:50 am
gan Josgin
Credaf fod Golwg 360 wedi dwyn dipyn o wynt o hwyliau Maes-e , fel petai.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Maw 17 Ebr 2012 9:38 am
gan dil
dwi'n defnyddio maes-e i weld be sy'n mynd ymlaen ac yn cyfranu drwy ymateb i bethe ma pobl yn ddeud.
dwi hefyd yn postio gigs dwin rhoi mlaen.
llu dio ddim yn amherthnasol i fi ac dio ddim yn wir fod neb yn cyfrannu.
er mae llawer llai yn neud. fel pob dim newydd mae maes-e wedi cael cychwyn da.
i ddilyn hyn fynu mae anghen hyrwyddo a datblygu. does fawr i ddim o hyn wedi digwydd.
tydi'r heddlu maes-e ddim wedi helpu chwaith.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Maw 17 Ebr 2012 1:43 pm
gan Orcloth
O'n i'n arfer cyfrannu a galw i mewn yn rheolaidd tan tua dwy flynedd yn ol, ond mi aeth pethau'n ddistaw iawn wedi dod nol ar ol iddo gau lawr am sbel, achos trafferthion.

Mae na gymaint o bethau eraill sy'n dal sylw rhywun dyddiau yma, fel FB. Bydd y maes yn postio ar fy nhudalen ar hwnnw'n rheolaidd, a phan welaf bwnc diddorol yn dod i fyny, fyddai'n dod draw i weld.