Cytuno efo Dil. Ac efo lot o'r sylwadau uchod, nad yw'r Gweplyfr yn lle da i gael "trafodaeth".
Dwi'n defnyddio maes-e i farchnata digwyddiadau gwerin, yn y grwp "digwyddiadau" fel arfer. Os oes 100 o bobl ychwanegol yn dod i wybod am y digwyddiadau oherwydd y maes, yna mae'r maes yn dal i fod yn berthnasol. Dwi isio targedu fy marchnata at Gymry Cymraeg a dysgwyr ac felly mae maes-e yn lle delfrydol i hynny. Mae'n lle handi iawn i ddod i wybod am gigs hefyd.
Mi wnaeth y grwp magu babi fy helpu i gadw rhag gwallgofi yn fy nghyfnod babi-llyd hefyd. Dwi'n dal i feddwl fod lle i hwnnw. Mae na genhedlaeth newydd o fabis gan faeswyr bellach - ydi'r rhieni newydd yn gwybod am fodolaeth y grwp? Roedd yn well na mumsnet ers talwm!