Tudalen 2 o 2

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Maw 17 Ebr 2012 1:51 pm
gan cwrwgl
Cytuno efo Dil. Ac efo lot o'r sylwadau uchod, nad yw'r Gweplyfr yn lle da i gael "trafodaeth".

Dwi'n defnyddio maes-e i farchnata digwyddiadau gwerin, yn y grwp "digwyddiadau" fel arfer. Os oes 100 o bobl ychwanegol yn dod i wybod am y digwyddiadau oherwydd y maes, yna mae'r maes yn dal i fod yn berthnasol. Dwi isio targedu fy marchnata at Gymry Cymraeg a dysgwyr ac felly mae maes-e yn lle delfrydol i hynny. Mae'n lle handi iawn i ddod i wybod am gigs hefyd.

Mi wnaeth y grwp magu babi fy helpu i gadw rhag gwallgofi yn fy nghyfnod babi-llyd hefyd. Dwi'n dal i feddwl fod lle i hwnnw. Mae na genhedlaeth newydd o fabis gan faeswyr bellach - ydi'r rhieni newydd yn gwybod am fodolaeth y grwp? Roedd yn well na mumsnet ers talwm!

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Maw 17 Ebr 2012 2:24 pm
gan dil
be sydd yn amherthnasol almwg ydi cael yr erthyglau bulb sy ar pen bob adran.
fel y 4 sy ar ben Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes a un sy fod i ddangos siart c2 a sy dros flowyddyn allan o ddyddiad.
mae hynu yn crap achos elli di bostio pob 5 munud ond fy ti byth ar y top.
pwy bynnag syn gallu TYNNWCH RHEINI LAWR.
mae anghen rwyn glirio crap allan does.
fel arall dwi am ddechre fforwm newydd.
onin meddwl fod rheolwyr newydd?
os oes be newidiade mae pob am neud?

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Maw 17 Ebr 2012 8:27 pm
gan Shadrach
Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n credu bod yna golled i'r Gymraeg o symud oddi wrth barth naturiol Gymraeg fel Maes-e i lwyfannau eraill. Dim ond trwy'r Gymraeg bu modd cyfrannu i'r Maes. Y mae gennyf gyfeillion ar Facebook a dilynwyr ar Twitter sydd yn ddi-gymraeg, ac fel mewn tafarn pan fo naw Cymro Cymraeg yn cymdeithasu yng nghwmni un Sais yr ydym i gyd yn troi i'r Saesneg.

Mae Google+ yn cynnig rhyw fath o ateb i'r broblem hon gan fod modd didoli pobl i grwpiau sy'n rhannu nodweddion megis iaith, diddordebau, ayb ond hyd y gwelaf mae'r Gymraeg yn brin iawn hyd yn hyn.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2012 12:15 pm
gan Josgin
O ran arbrawf , fe wnes bostio cyfraniad tua 10.30 neithiwr . Dim son amdano fel 'neges newydd' erbyn ganol dydd.
Sut mae disgwyl i'r peth weithio , felly ?
O ran Golwg 360 , y gwns grybwyll gynt, nid oes modd cyfrannu sylw iddo ar y funud , am rhyw rheswm.
Oes yna rhywbeth wedi newid ?

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2012 1:25 pm
gan osian
Josgin a ddywedodd:O ran arbrawf , fe wnes bostio cyfraniad tua 10.30 neithiwr . Dim son amdano fel 'neges newydd' erbyn ganol dydd.
Sut mae disgwyl i'r peth weithio , felly ?
O ran Golwg 360 , y gwns grybwyll gynt, nid oes modd cyfrannu sylw iddo ar y funud , am rhyw rheswm.
Oes yna rhywbeth wedi newid ?

Ai dy neges yn edefyn Uwch Gynghrair Cymru oedd hi? Mi oedd hi yn neges newydd i fi rwan (un o ddwy)

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2012 3:06 pm
gan Josgin
mae'n bosibl mae fi sydd ddim yn deall pethau byth hyd heddiw ! Diolch.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Gwe 20 Ebr 2012 5:36 pm
gan ceribethlem
dil a ddywedodd:be sydd yn amherthnasol almwg ydi cael yr erthyglau bulb sy ar pen bob adran.
fel y 4 sy ar ben Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes a un sy fod i ddangos siart c2 a sy dros flowyddyn allan o ddyddiad.
mae hynu yn crap achos elli di bostio pob 5 munud ond fy ti byth ar y top.
pwy bynnag syn gallu TYNNWCH RHEINI LAWR.
mae anghen rwyn glirio crap allan does.
fel arall dwi am ddechre fforwm newydd.
onin meddwl fod rheolwyr newydd?
os oes be newidiade mae pob am neud?

Fi wedi symud lot o edefynnau bwlb, er mwyn trial hwyluso pethau fel wnes di awgrymu.

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Llun 23 Ebr 2012 5:07 pm
gan dil
lot gwell dwi meddwl.
be am drio hyrwyddo fo rwan.
lle mae'r botwn i yru wbeth i facebook di mynd.
ma hwnw yn dda i hyrwyddo dydi.
ydio yma a fi ddim yn deall?

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Sad 28 Ebr 2012 3:42 am
gan Hen Rech Flin
Josgin a ddywedodd:Credaf fod Golwg 360 wedi dwyn dipyn o wynt o hwyliau Maes-e , fel petai.


Wedi clywed y sylw yma sawl gwaith - a'i cyflogai Golwg360 sydd yn gyfrifol amdanynt? Prin ar y diawl yw'r drafodaeth ar wefan Golwg o gymharu รข'r drafodaeth a fu ar hen seiat wleidyddol y Maes!

Re: Ydy maes-e bellach yn hollol amherthnasol? 'Sneb yn cyfr

PostioPostiwyd: Sad 28 Ebr 2012 5:11 pm
gan Josgin
Ti'n iawn efallai - efalllai fod hwnnw wedi chwythu ei blwc hefyd.