Tudalen 1 o 1

Gwobrau Rap

PostioPostiwyd: Llun 07 Mai 2012 1:17 pm
gan Meri
Nifer helaeth o'r artistiaid sydd wedi eu henwebu yn gweithio i'r BBC !!!!!!

Re: Gwobrau Rap

PostioPostiwyd: Llun 07 Mai 2012 11:37 pm
gan anffodus
A...?

Dydi swydd rhywun ddim yn amharu ar eu gallu nhw i ysgrifennu caneuon, canu, chwara offeryn, cynhyrchu etc. does bosib?

Pwy ohonyn nhw'n union sy'n gweithio i'r BBC? Mae'r rhai dw i'n ymwybodol eu bod nhw'n gweithio i'r BBC wedi bod yn gwneud hynny oherwydd eu gallu cerddorol, beth bynnag.

Ac mae 'na restr o'r panel gwobrwyo i'w gael yma - weli di BBC yno yn rwla?

Re: Gwobrau Rap

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2012 6:49 am
gan Meri
Nodi ffaith oeddwn i. Doeddwn i ddim yn mynegi barn!!!!!!!

Re: Gwobrau Rap

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2012 1:30 pm
gan anffodus
Meri a ddywedodd:Nodi ffaith oeddwn i.


Wel pam nodi'r ffaith honno yn hytrach nag unrhyw un arall? Pam ddim 'nifer o'r artistiaid wedi cael eu geni ar blaned o'r enw 'Y Ddaear''? Y ddwy ffaith yr un mor berthnasol.

Meri a ddywedodd:Doeddwn i ddim yn mynegi barn!!!!!!!


Sut ma Geiriadur Prifysgol Cymru yn sillafu 'bolycs'...? Ma'n amlwg bo chdi'n neud mwy na jyst nodi ffaith.

Os tisio trafodaeth gall ar y ffin rhwng y cynnwys a'r cyfrwng a lle dylia hi fod (trafodaeth sydd werth ei chael, am wn i), yna iawn, gret. Ond ma'n swnio tha bo chdi jyst yn cwyno a wedyn yn cilio rhag ca'l trafodaeth go iawn.

Re: Gwobrau Rap

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2012 3:02 pm
gan Meri
Gwnaethpwyd sylw neu ddau am y ffaith, mewn ffordd ddychanol, ar y rhaglen Gwobrau RAP ar y we neithiwr - doniol iawn oedden nhw hefyd.

Re: Gwobrau Rap

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2012 12:49 pm
gan dil
dio ddiawl o bwys pwy ma nhwn gweithio i yn fy marn i.
be syn bwysig ydi bod nhw wedi bod yn weithgar dwi meddwl.
ac am hynu allai ddim beirniadu neb sy wedi ennill.
ond dwi yn meddwl fod agwedd bandie wedi mynd lawr yn yr srg.
maer gallu yno ond diog di bandie pan maen dod i gyfranu i greu sin lewyrchus lwyddianus.
tydi mynd i coleg ddim yn esgys i beidio teithio tuallan i gaerdydd yn ystod y tymor coleg.
dydi hynu ddim yn dangos fod nhw oddifri ogwbwl.
jyst hobi stiwdent a ffes di hynu.
ma fynu i pawb be ma nhw isio neud wrthgwrs, dim rhaid i newb neud dim.
ac yn amlwg tydi hyn ddim yn wir am bawb. cowbois rhos wedi dechrau cymrud pethe oddifri ac mae hynu yn amlwg gweithio i nhw.
ond maen ffaith nes erioed cael ffa coffi, y cyrff, jess, crumblowers, a nifer fawr o fandie erill
yn troi gig i lawr achos fod nhw yn garo trafeilio neu bod nhw yn coleg ne be bynnag.
felly, codwch oddi ar eich tine y bastard diog a dangoswch olia fod y cerddorion yn bothered am yr SRG hudanoed os oes neb arall yn. ydi chware slot yn maes b yn ddigon o ymdrech am flwyddyn?