Meri a ddywedodd:Nodi ffaith oeddwn i.
Wel pam nodi'r ffaith honno yn hytrach nag unrhyw un arall? Pam ddim 'nifer o'r artistiaid wedi cael eu geni ar blaned o'r enw 'Y Ddaear''? Y ddwy ffaith yr un mor berthnasol.
Meri a ddywedodd:Doeddwn i ddim yn mynegi barn!!!!!!!
Sut ma Geiriadur Prifysgol Cymru yn sillafu 'bolycs'...? Ma'n amlwg bo chdi'n neud mwy na jyst nodi ffaith.
Os tisio trafodaeth gall ar y ffin rhwng y cynnwys a'r cyfrwng a lle dylia hi fod (trafodaeth sydd werth ei chael, am wn i), yna iawn, gret. Ond ma'n swnio tha bo chdi jyst yn cwyno a wedyn yn cilio rhag ca'l trafodaeth go iawn.