siop
Postiwyd: Sad 14 Gor 2012 10:53 am
Es i i siop Gymraeg i brynu CDs, lle mae ganddyn nhw gynnig arbennig ar nifer o'u CDs o brynu dau, cael yr un rhatach am ddim. Mi geisiais i brynu 2 am £3, ac hefyd 2 am £5, ond dwedodd nhw mai £10 dylai'r cyfanswm fod (yn talu am y dau fwyaf costus, ac yn dderbyn y dau rataf am ddim), ac roedden nhw'n hollol bendant am hyn. Bu rhaid i mi wneud iddyn nhw ganslo popeth ac wedyn ailgeisio gyda dau drafodiad gwahanol er mwyn prynu nhw am gyfanswm teg (£8). Fydda i ddim yn enwi'r siop neu'r dref (heblaw dweud mai rhywle yn y Gogledd ydy hi), ond os yn prynu cerddoriaeth, sicrhewch i beidio a gordalu...