Tudalen 1 o 1

siop

PostioPostiwyd: Sad 14 Gor 2012 10:53 am
gan arbenyrallt
Es i i siop Gymraeg i brynu CDs, lle mae ganddyn nhw gynnig arbennig ar nifer o'u CDs o brynu dau, cael yr un rhatach am ddim. Mi geisiais i brynu 2 am £3, ac hefyd 2 am £5, ond dwedodd nhw mai £10 dylai'r cyfanswm fod (yn talu am y dau fwyaf costus, ac yn dderbyn y dau rataf am ddim), ac roedden nhw'n hollol bendant am hyn. Bu rhaid i mi wneud iddyn nhw ganslo popeth ac wedyn ailgeisio gyda dau drafodiad gwahanol er mwyn prynu nhw am gyfanswm teg (£8). Fydda i ddim yn enwi'r siop neu'r dref (heblaw dweud mai rhywle yn y Gogledd ydy hi), ond os yn prynu cerddoriaeth, sicrhewch i beidio a gordalu...

Re: siop

PostioPostiwyd: Sul 15 Gor 2012 11:57 am
gan dil
sgenti fwy o storis?

Re: siop

PostioPostiwyd: Sul 15 Gor 2012 4:59 pm
gan arbenyrallt
dil a ddywedodd:sgenti fwy o storis?


dim ond yr un am y person a anwybyddodd y rhybudd a thalodd gormod am ei gerddoriaeth Gymraeg fel canlyniad :winc:

Re: siop

PostioPostiwyd: Sad 15 Medi 2012 3:39 pm
gan Ramirez
arbenyrallt a ddywedodd:dim ond yr un am y person a anwybyddodd y rhybudd a thalodd gormod am ei gerddoriaeth Gymraeg fel canlyniad :winc:


Cofia mai dyna ydi bywoliaeth lot o gerddorion, heb son am y siop a´r labeli. 4 CD am ddegpunt ddim yn y nharo i fel "talu gormod". Ar y llaw arall, chwarae teg i ti am fynd allan i brynu yn y lle cyntaf.