Tudalen 1 o 1

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn yr Eisteddfod

PostioPostiwyd: Mer 24 Gor 2013 4:34 pm
gan SefydliadCerddoriaethGym
Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Am y tro cyntaf mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn cynnal wythnos lawn o weithgareddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn Ninbych mae flwyddyn yma, cofn na wyddoch.

Yng Nghaffi Maes B, caffi newydd sbon yn 2013 ar Faes yr Eisteddfod ei hun, bydd SCG yn cyflwyno wythnos o baneli a seminarau am 12.30 rhwng Llun a Gwener, Awst 5 i Awst 9.

Yn ogystal bydd prif labeli Cymru’n arddangos eu talentau rhwng 2-4yp.

Ar ddydd iau bydd panel ar Y Da, Y Drwg, a'r hyn sy'i Angen. I arwain at y sesiwn rydym yn gwahodd sylwadau a chwestiynau ganddoch o flaen llaw, felly ebostiwch hefin@sefydliadcerddoriaethgymreig.com neu ewch ar ein tudalen Facebook https://www.facebook.com/wmfscgneu Twitter @walesmusic #DaDrwgAngen a gadewch eich pwt neu gwestiwn am eich barn ar unrhyw agwedd ar gerddoriaeth yng Nghymru i'r panel eu hateb a'u trafod.

Bydd Caffi Maes B hefyd yn llawn perfformiadau trwy'r wythnos gan artistiaid cyfoes Cymru, gyda gweithdai Ciwdod yn y boreuau.

Dyma'r arlwy:

Llun Awst 5
Cerdd Cymru : Music Wales

Womex – Beth sydd yno i ni?
Dewch i glywed yr hyn gall Womex ‘13, Caerdydd, a Cerdd Cymru ei wneud dros ddiwydiant cerddoriaeth byd, gwerin a thraddodiadol Cymru.

Label: Fflach

Gyda Bromas


Mawrth Awst 6
Ysgrifennu am Gerddoriaeth

Dewch i glywed sut mae ysgrifennu am gerddoriaeth yn Gymraeg, a sut i gael eich hunain mewn print ac ar sgrin os ydych yn fand neu’n artist.

Panel: Carl Morris (Y Twll), Owain Schiavone ( Y Selar), Malan Wilkinson (Y Llwyfan)

Label: Sbrigyn Ymborth
Gyda Plu, Gildas, Cowbois Rhos Botwnnog


Mercher Awst 7
Cyllid: Lle i’w feddu a sut i’w gael

Dewch i glywed gan sefydliadau cyllido mwyaf blaenllaw Cymru ar sut i ennyn cefnogaeth ariannol ar gyfer eich cynlluniau.

Panel: Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, PRSFoundation

Sesiynau cyllid un-i-un Cyngor Celfyddydau Cymru - ebostiwch gwybodaeth@celfcymru.org.uk i gofrestru slot.
Label: I Ka Ching
Gyda Siddi, Casi Wyn


Iau Awst 8
Y Da, Y Drwg, a’r hyn sy’i Angen

Yn trafod popeth sydd yn y teitl am y sin gyfoes Gymraeg. Mae Sefydliad Cerddoriath Gymreig yn eich gwahodd i gyfranu at y sesiwn o flaen llaw. Ewch i’n tudalen Facebook neu Twitter @walesmusic i adael sylwad neu gwestiwn i’r panel.

Panel: Gareth Iwan (C2 Radio Cymru), Dilwyn Llwyd (Gwyl Gardd Goll), Gwilym Morus (Eos) a John Hywel Morris (PRS)

Label: Copa / Gwymon
Gydag Yr Ods, Georgia Ruth, Swnami


Gwener Awst 9
Sut i Greu Digwyddiad a Sut i fod Arno.
Dewch i glywed a thrafod yr arferion da o greu eich gig neu eich gwyl, a sut i gael eich hun ar y bil fel cerddorion.

Panel: Dilwyn Llwyd (Gwyl Gardd Goll), Guto Brychan (os nad oes argyfwng!) (Maes B, Clwb Ifor Bach), Gwion Schiavone (Gwyl Gwydir) ac Aled Wyn Phillips (Clwb y Diwc)

Re: Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn yr Eisteddfod

PostioPostiwyd: Gwe 26 Gor 2013 4:02 pm
gan SefydliadCerddoriaethGym
Bydd ein panel ar ddydd Mercher Awst 7 yn yr Eisteddfod Genedlaethol - Cyllid: Lle i’w feddu a sut i’w gael - yn cychwyn am 12.15pm yng Nghaffi Maes B (nid am 12.30 fel nodwyd)