Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 05 Rhag 2014 9:51 am
gan Rhodri Nwdls
Mae hi bron yn ddiwedd blwyddyn. Be di'r traciau sydd wedi gwneud i chi ddisgyn oddi ar eich stôl eleni?
Gwon, mae bron yn amser neud rhestr. Rhestrau, mmm.
Cymraeg:
Fratolish Hiang Perpeski - Gwenno
Arall:
Aurora Northern Quarter - Lone
A jest am all out 'woah, be ddiawl di hwn?' freshni:
Lemonade - SOPHIE
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 05 Rhag 2014 11:16 am
gan Rhys Llwyd
Dwi wir wedi mwynhau power pop indie (ydy pobl dal i ddefnyddio termau fel hyn bellach? mi oedda ni yn 2004!) Yr Eira yn ddiweddar:
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 05 Rhag 2014 4:12 pm
gan David Wyn
Dwi heb glywed y Basement Tapes eto, er mod i'n dipyn o ffan o'r Band a'r Dylan arall.
O ran stwff Cymraeg...chi di gwel
Mae'r Parry Isaacs yn "ail ffurfio" cyn y Dolig dwi'n credu...
manylion via @carylparryjones yw
Y PARRY ISAACS a'u gig Nadolig,Theatr Elwy,Ysgol Glan Clwyd nos Sadwrn,6ed.Tocynnau o Siop Clwyd,Wish Rhuddlan neu wrth y drws.Plis rhannwch!
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 05 Rhag 2014 10:44 pm
gan nicdafis
Heb glywed lot o gerddoriaeth Gymraeg newydd eleni, rhag nghywilydd. Uchafbwyntiau'r flwyddyn i fi (hyd yn hyn) yw
SWANS,
Sun Kil Moon a
Taylor ffycin Swift.
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 05 Rhag 2014 10:54 pm
gan Jyst
Mae'r albym Sun Kil Moon 'na yn wych.
Oedd albym
Cloud Nothings yn dda 'fyd.
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 05 Rhag 2014 11:26 pm
gan nicdafis
O, gwd galw! (a chroeso i'r maes!)
Joanna Gruesome oedd un o'r rhesymau i fi fynd i'r Dyn Gwyrdd eleni, a wnaeth y ffycars beidio troi fyny.
Un arall:
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Llun 08 Rhag 2014 6:58 pm
gan Rhodri Nwdls
Jest isio cytuno efo Joanna Gruesome. Iei i hynny!
Re: Cerddoriaeth Orau 2014 #dyddmaese
Postiwyd:
Gwe 12 Rhag 2014 11:51 am
gan nicdafis
Döh! Nes i anghofio am
Bür Hoff Bau. CD heb fod ma's o'r car ers i fi gael.