Gan fod turntables yn gwerthu mwy na gitars bellach ers rhyw ddegawd, mae'r DJ erbyn hyn yn cael ei dderbyn fel cerddor. Mae turntabalists yn enwedig yn gerddorion talentog iawn, sy'n gwneud mwy na just cymysgu dau record i mewn i'w gilydd, ond yn "siarad" gyda'i dwylo.
Nes i weld DJ Vadim a Mr Thing yn ddiweddar, ac roedd beth oedden nhw'n neud gyda par o ddecs a micsar yn hollol mindblowing. ma na lot o "skill" yn mynd i mewn i'r ffordd mae nhw'n defnyddio feinal i creu "swn" hollol newydd.
Pwy felly ydy'r DJ's gorau yn eich barn chi? Mi oedd Grandmaster Flash yn uffar o showman da, yn gallu symud y dorf ac yn siarad a'r bobl hefyd, ond yn bersonol fase ni'n dweud mae y boi ydy DJ Krush.