gan Cardi Bach » Gwe 17 Ion 2003 2:43 pm
Wedyn bu i Bobs ymadael (bobs ar y Bocs - Briliant!) a Slaymaker hefyd yn gadael (ai jest 'Slaymaker' odd enw'r rhaglen..?), ac a'th Daniel Glyn i nos Iau a doth Sion Dom, rhyw ben, i nos Fercher. Bu i Ali Yassine adael a Nia Melville - dyna oedd dechre'r dirywiad - wedyn ddoth Gareth Potter i neud rhaglen 'ddawns', a tua'r diwedd doth y Parchedig Pop yn lle Daniel Glyn dim ond i gael ei dympo am Dafydd Du.
Odd Owain Gwilym ar y pryd yn dal dwy swydd - un fel plymyr yn ystod y dydd a wedyn wrth gwrs, y Lein Hwyr, bob nos fawrth.
Odd Daniel Glyn yn seren ar y pryd, whare teg - er fod ei gerddorieth braidd yn ganol y ffordd, odd ei hiwmor e'n siwpyrb, a odd e'n troedio llwybrau peryglus iawn weithe - ac yn hollol hileriys!
Er, y foment anghofiadwy odd wrth bod Sion Dom yn cynnal cyfweliad gyda...Rhodri John?...a ma Rhodri yn gofyn am gan, Y Trwyne Coch - Merched Dan Bymtheg. Ar ol y gan gofynnodd Sion i Rhodri pam, a medde Rhodri achos fod y gan yn 'banned' o gael ei chware ar y Radio, a wedodd Rhodri y bydde Sion nawr mewn lot fowr o drwbwl - wy ddim yn siwr os gath e reprimand neu unrhywbeth, ond odd e ddim ar y radio am lot hyrach!