PLIS PLEDLEISIWCH (CYFRWNG RADIO CYMRU (C2))

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfrwng Radio Cymru

1 Saesneg 3 Cymraeg (presennol)
3
23%
Cymraeg i gyd
10
77%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

PLIS PLEDLEISIWCH (CYFRWNG RADIO CYMRU (C2))

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 16 Ion 2003 10:51 pm

Polisi Radio Cymru ar hyn o bryd fel dwi'n deall yw 3 can Cymrag i bob 1 Saesneg.

Dylid newid i gael pob can yn Gymraeg?

PLEDLEISIWCH PLIS, DWI ANGEN Y CANLYNIAD AR GYFER FY ERTHYGL!

hwyl,
rhys
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 17 Ion 2003 6:39 pm

Pledleisiwch
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Ramirez » Gwe 17 Ion 2003 6:49 pm

Wel, mis fasa na dipyn o uproar o Gymru os fasa gorsafoedd radio Lloegr yn datgan ei fod yn BOLISI ganddynt i beidio chwarae stwff Cymraeg, yn basa?
Ddyliau ieithoedd ddim bod yn rhwystrau. Beth am fandiau sy'n siarad Cymraeg fel ail-iaith ella, a efo traciau Saesneg. Pwy arall sy'n mynd i chwara nw?
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 17 Ion 2003 8:05 pm

be am Radio Wales ar gyfer rheini?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Ramirez » Gwe 17 Ion 2003 8:29 pm

A beth fasa'r polisi os fasa riwyn yn recordio'n Llydaweg neu Gaelic?
Yr un polisi, ynteu ydio'n fater o 'rywbeth ond Saesneg?'

(Dwi ddim yn angenrheidiol yn cytuno efo fi fy hun cofiwch, dwi jysd yn hoff o ddadlau a defnyddio safbwyntiau diddorol, a dwi ddim yn lecio i bethau gael eu derbyn yn rhy hawdd a heb feirniadaeth, hyd yn oed os ydwi'n cytuno yn y pen draw. Don't ask.)
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Ion 2003 9:20 pm

'Set ti'n darllen y wegofiadur fendigedig <a href="http://morfablog.com/archifau/000045.html#000045">More Of a Blog</a>, fyddet ti'n gwybod bod gan <a href="http://www.rnag.ie/">Raidió na Gaeltachta</a> bolisi o beidio chwarae cerddoriaeth Saesneg ei iaith o gwbl, am y rheswm syml bod yr iaith Gwyddeleg yn cael ei lladd gan yr iaith Saesneg, ond dydy'r iaith Basgeg ddim cymaint o fygwth iddi.

Ie, dw i'n gwybod, gor-symleiddio.

Ond mae'n wir.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Ion 2003 9:25 pm

Jyst rhag ofn doedd hynny'n glir, byddai fy mhleidlais i'n bod dros "dim Saesneg ond unrhywbeth arall".

Mae digon o gerddoriaeth wych di-Saesneg i'w cael yn y byd, a fyddai mil gwell gen i glywed Sigur Ros ar Radio Cymru na'r rhan fwya o'r rwtsh (Saesneg a Chymraeg) maen nhw'n chwarae ar hyn o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ramirez » Gwe 17 Ion 2003 9:57 pm

Ie, wni, dwi ddim yn deud llai.
Ond beth am draciau Saesneg y Tystion neu Super Furries, er engrhaifft, neu hyd yn oed Big Leaves?
Ydi hi'n iawn cadw cerddoriaeth Saesneg gan fandiau sydd hefyd yn hybu'r Gymraeg oddi ar Radio Cymru. Y bandiau yma ydi prif gynrychiolwyr yr iaith ym myd cerddoriaeth gyfoes (er bod Big Leaves yn over-rated iawn), ond os oesna bolisi di-Saesneg, mae efallai 50% o'u cynnyrch yn cael ei gadw oddi ar radio cenedlaethol eu mamwlad.

Co-incidentally, dwin cytuno efo'r polisi Cymraeg i gyd, er gwaetha fy mhleidlais flaenorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 17 Ion 2003 10:23 pm

Dim Saesneg oherwydd bod yr iaith yna yn 'dominating' dyna fy marn i!

O ni mewn gig Big Leaves nos wener dwetha, netho nw gwpwl o ganeuon Susnag, odd e allan oi le Pam? odd pawb yna yn Gymry Cymrag, dodd neb moyn clywed caneuon Saesneg!

Digpon teg iddyn nhw ehangu allan, ond dydy nhw ddim! ma nw'n ware y caneuon Saesneg arnom ni!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 17 Ion 2003 10:29 pm

all rywyn gadarnhau mae polisi presenol Radio cymru ydy 3:1!!!!!!!!!

dwi ddim am gael achos enllib yn fy erbyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai