Rhys Llwyd a ddywedodd:all rywyn gadarnhau mae polisi presenol Radio cymru ydy 3:1!!!!!!!!!
dwi ddim am gael achos enllib yn fy erbyn!
Ddim yn 100% siwr os mae 3:1 ydy'r ddarpariaeth.
Ond, dwi yn gwybod am ffaith ddiddorol am bolisi "Iaith" Radio Cymru (inside information ti'n gweld! ; ) -
Os mae DJ yn chwarae record sydd ddim yn Gymraeg, yna mae'n cael ei gyfri fel record Saesneg. Hynny yw, os mae record yn offerynnol neu yn cael ei ganu yn Wyddeleg, Sbaeneg neu be bynnag - MAE'N RECORD SAESNEG!!!! Hollol boncers os ti'n gofyn i fi.
Serch hynnu dwi'n cytuno'n llwyr gyda sylwadau Nic - for ffycs sakes pan nad ydy RC yn chwarae stwff mewn Iaith Gwlad yr Ia, Siec, Rwsieg neu be bynnag yn lle records Saesneg.
Y broblem fwyaf ydy'r diffyg records Cymraeg. Sdim pwynt lladd ar Radio Cymru am fod nhw ddim yn chwarau records Cymraeg drwy'r amser, achos sdim digon o records i gal! (A llai fyth o rhai da!!!) A cyn i unrhyw un ddechre - dwi ddim ishe clywed back catalogue Sain yn cael ei sbinio non-stop - DIM DIOLCH! Dwi'n son am recordiau Newydd Oce. Gafodd braidd ffyc ol o records Cymraeg eu rhyddhau yn 2002... allai feddwl am rhyw ddwsin ar y mwyaf - Pathetic!!!!
So Rhys a unrhyw un arall sydd am weld 1:1 Cymraeg, os da chi am glywed stwff Cymraeg yn unig, yna dechreuwch label recordiau eich hynnan.
Newch rywbeth am y peth yn lle winjo, eh lads?
Neud nid Deud - dyna'r polisi gorau.