huwwaters a ddywedodd:Oes yna rhywyn yma sy'n gwybod llawer amdano?
Efo'r potensial o allu darlledu sawl gorsaf ar yr un amlder, a fydd hyn yn hybu y nifer o orsafoedd Cymraeg, cenedlaethol?
Mae'n dibynnu os wyt ti'n son am ddarlledu radio digidol ar loeren neu yn ddaearol ac os yw'r gwasanaeth yn wasanaeth cyhoeddus neu masnachol.
Lloeren: Mae angen talu £££ i Sky er mwyn cael gofod am sianel ac ymddangos ar yr EPG. Felly fe fyddai rhaid i unrhyw sianel wneud digon o arian drwy hysbysebu er mwyn talu hynny, neu fod yn wasanaeth sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus (drwy'r BBC mwy na thebyg). Mae Radio Cymru yno ar blethiad y BBC.
Daearol: Mae yna amlblethau (
multiplexes) cenedlaethol (trwy Brydain) a rhai lleol. Yn ol y BBC, dim ond 65% o'r boblogaeth sy'n callu derbyn radio digidol ar hyn o bryd (dyfalwch lle .. yr Alban a rhannau helaeth o ogledd a canolbarth Cymru).
Mae amlbleth y BBC yn darlledu rhai gwasanaethau lleiafrifol e.e Asian Network ond nid ydynt yn darlledu Radio Cymru a mae'n anhebyg y byddent yn creu gorsaf newydd ar wahan heblaw fod dyhead i wneud hynny gan y BBC neu fod deddf yn cael ei basio i ariannu sianel yn yr un modd a S4C.
Y broblem gyda sianeli radio digidol i gyd yw fod darlledwyr yn hoff o greu sianeli newydd dibwys fel "Radio 5 Live Sports Extra" ond mae'n nhw'n gorfod cywasgu'r sianeli yn fwy i wneud hynny. Felly yn y diwedd mae pob sianel yn swnio'n waeth na sianel fono ar Long Wave.
Mae yn hefyd amlbleth masnachol sydd hefyd ddim ar gael drwy Brydain gyfan heb son am Gymru. Mae'n siwr fod gofod ar gael i sianeli newydd fan hyn ond eto mi fyddai'n costio ffortiwn er mwyn talu'r cwmni wnaeth ennill franchise y plethiad a fe fyddai rhaid i rywun ei ariannu.
Yn fyr... dyw radio/teledu digidol ddim yn panacea i greu sianeli Cymraeg newydd. Mae hi'n llawer haws a llai costus i chwyldroi beth sydd ganddom ni ar hyn o bryd.. Radio Cymru a'r rhyngrwyd,[/list]