Yr Anhrefn

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gruff Goch » Mer 29 Ion 2003 4:07 pm

Ym, dwyt ti'm wedi gwneud hynny'n barod? :?

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 29 Ion 2003 4:17 pm

Na. Disgograffi y grwp Anhrefn sydd uwchben. Nath Rhys Mwyn sefydlu label o'r enw Recordiau Anhrefn gan rhyddhau llwyth o stwff Cymraeg fel Datblygu, Fflaps ayb yn yr 80au (ac ar feinal!)
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan ceribethlem » Mer 29 Ion 2003 7:47 pm

Yr unig ddau record recordiau anhrefn fi'n gwbod amdanynt yw'r rhai wnesi son amdanyn nhw yn gynharach, Cam o'r Tywyllwch a Gadael yr Ugeinfed Ganrif.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Recordiau Anhrefn

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 29 Ion 2003 8:34 pm

Iawn, os all rhywun lenwi'r bylche, bydde ni'n ddiolchgar iawn.

DISGOGRAFFI RECORDIAU ANHREFN 1984-88 a ddywedodd:001 ANHREFN Dim Heddwch/Priodas Hapus [7"] 1984
002 AMLGYFRANOG Cam O'r Tywyllwch [LP] 1985
003
004 AMLGYFRANOG Gadael Yr Ugeinfed Ganrif [LP] 1986
005
006 AMLGYFRANOG [7"EP] 1986
007
008 DATBLYGU Hwgwrgrawthog [caset/7"EP] 1986
009 LLWYBR LLAETHOG Dull Di-Drais [caset/7"EP] 1986
010 AMLGYFRANOG Mindless Slaughter [LP] 1987 ?
011 LLWYBR LLAETHOG Tour De France/Yo! [7"] 1987
012 FFLAPS Dilyn Dylan [7"EP] 1987
013
014 DATBLYGU Wyau [LP] 1988
015 ANHREFN Be Nesa 89" [7"] 1988

Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gruff Goch » Iau 30 Ion 2003 1:46 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Na. Disgograffi y grwp Anhrefn sydd uwchben. Nath Rhys Mwyn sefydlu label o'r enw Recordiau Anhrefn gan rhyddhau llwyth o stwff Cymraeg fel Datblygu, Fflaps ayb yn yr 80au (ac ar feinal!)


Cool- dwi'n rhy ifanc i gofio hynny :winc: . Does na'm tudalen we (braidd yn DIY yr olwg) sy'n rhestru disgograffiau a line-ups bandiau SRG? Dwi'n siwr mod i wedi dod ar draws un rhywbryd...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 31 Ion 2003 5:00 pm

Gruff Goch a ddywedodd:Does na'm tudalen we (braidd yn DIY yr olwg) sy'n rhestru disgograffiau a line-ups bandiau SRG? Dwi'n siwr mod i wedi dod ar draws un rhywbryd...


Dwi heb ddod ar draws dim heblaw Curiad - ond does dim byd wedi ei ddiweddaru arno ers amser maith (helo Dafydd! :winc: )

Falle ddyle rhywun ddechrau rhywfath o gronfa o wybodaeth am bandiau, lein-up a recordiau SRG. Nath Gari Melville ddechre Archif Bop, ond dydi e ddim ar lein ar hen o bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan dafydd » Gwe 31 Ion 2003 6:26 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Dwi heb ddod ar draws dim heblaw Curiad - ond does dim byd wedi ei ddiweddaru arno ers amser maith (helo Dafydd! :winc: )

Falle ddyle rhywun ddechrau rhywfath o gronfa o wybodaeth am bandiau, lein-up a recordiau SRG.


cyfeiriad cywir

Ie, biti braidd... Ar y dechrau (1996) doedd dim lot o Gymry Cymraeg ar-lein a felly doedd dim llawer o gynulleidfa na cyfrannwyr. Dyw e ddim yn ddigon da erbyn hyn i jyst sticio fyny unrhyw hen wybodaeth.. mae angen lluniau, disgrifiad ffraeth, cyswllt i gynnyrch ayyb.

Erbyn hyn mae gen i'r sgiliau i wneud safle gwych (yn dechnolegol) ond y cynnwys yw'r peth pwysicaf o hyd. Falle fod yna ddigon o bobl (sgrifennwyr, adolygwyr ayyb) ar-lein nawr er mwyn cynnal y fath beth? Rhywbeth annibynnol, cynhwysfawr a sydd ddim yn rhan o fonopoli BBC Online?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Gruff Goch » Sul 02 Chw 2003 1:20 am

dafydd a ddywedodd:Erbyn hyn mae gen i'r sgiliau i wneud safle gwych (yn dechnolegol) ond y cynnwys yw'r peth pwysicaf o hyd. Falle fod yna ddigon o bobl (sgrifennwyr, adolygwyr ayyb) ar-lein nawr er mwyn cynnal y fath beth? Rhywbeth annibynnol, cynhwysfawr a sydd ddim yn rhan o fonopoli BBC Online?


Dwi'n meddwl fod cael rhywbeth felly yn bwysig iawn yn ddiwylliannol. Mi faswn i'n ddigon parod i gyfrannu cynnwys a rhywfaint o bres i gefnogi menter o'r fath. Dwi wedi bod yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg ar ben fy hun,ond mae o'n lot i un person ei wneud, yn enwedig os ydw i'n trio cynhyrchu cerddoriaeth hefyd.

Gruff
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Gwefan newydd am yr SRG (RIP)

Postiogan Mihangel Macintosh » Sul 02 Chw 2003 3:27 am

dafydd a ddywedodd: Dyw e ddim yn ddigon da erbyn hyn i jyst sticio fyny unrhyw hen wybodaeth.. mae angen lluniau, disgrifiad ffraeth, cyswllt i gynnyrch ayyb.

Erbyn hyn mae gen i'r sgiliau i wneud safle gwych (yn dechnolegol) ond y cynnwys yw'r peth pwysicaf o hyd. Falle fod yna ddigon o bobl (sgrifennwyr, adolygwyr ayyb) ar-lein nawr er mwyn cynnal y fath beth? Rhywbeth annibynnol, cynhwysfawr a sydd ddim yn rhan o fonopoli BBC Online?


Cytuno am fonopoli y British Brainwashing Corporation. Odd o'n ddiwrnod trist pan nath gwefan Land of Song droi yn BBC Wales Music. Wack.

Dafydd, Os oedd gen i amser a arian (as if!) fase ni'n hapus i gyfrannu i wefan newydd ANNIBYNNOL am yr SRG neu be bynnag ydy e heddiw... S.R.G. R.I.P? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai