Faint ma rhain yn costio i'w rhedeg (dwi'n meddwl yn benodol am y rhai sy'n cael eu dangos ar SKY digidol)?
Ma 'na 17 o sianeli cerddoriaeth ar gael ar SKY ar y funud (a 4 arall ar y ffordd, mae'n debyg), ac ma'r hysbysebu bach yn brin ar eu hanner nhw, felly o le ddiawl ma nhw'n cael yr arian i'w rhedeg nhw? Does bosib fod yna gymaint a hynny yn ffonio i fewn i ofyn am gân arbennig- ma nhw mond yn gallu chwarae un fideo bob 4 munud beth bynnag...
Y rheswm dwi'n gofyn ydi modi wedi bod yn gwylio ychydig ar Fox News yn ddiweddar, a dwi'n edmygu'n fawr y ffordd y mae nhw'n defnyddio teledu i lywio meddyliau a barn y boblogaeth. Os fasa gen i fy ngorsaf fy hun, mi faswn i'n gallu gwneud yr un peth (ond yn wahanol, os 'dach chi'n dallt be dwi'n feddwl). Dwi'n addo fasa fo'n fwy diddorol na gweld yr un fideo yn cael ei chwarae ar bob un o'r 17 sianel cerddoriaeth, drosodd a throsodd... (Neu oleia mi fydda i wedi llywio eich barn chi ddigon fel eich bo chi'n meddwl ei fod o )
Be dwi'n mynd i wneud heno? Run peth dwi'n ei wneud bob noson, Pinci. Trio cymryd y byd 'ma drosodd!
Gruff