Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Be ffwc ydy cerddoriaeth Cymraeg pubur eni wei Rhys? Be ti isho, pobl yn chwarae y crwth o gwpas y tan? (O, sori, ie anghofies i, nath y twats methodistaidd 'na fanio yr offeryn yn 18fed Ganrif rhag ofn roedd y Cymry yn mwynhau ei hynnan...)
Sori Rhys, ond ti'n byw ar blaned dy hyn. Paid fod mor gul. Ti'm yn helpi'r achos.
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Johnny, mesur o lwyddiant go-iawn ydy cael dy anwybyddu gan y dickheads di-glem sy'n rhedeg y cyfryngau/ gigs/ wasg Gymraeg
Llongyfarchiadau ar dy adolygiad yn Musik.
Lle mae Rhys Llwyd/Catrin crwt ysgol/coleg/Hedd Nazi ayb yn y byd eang..ffycin nunman
Allai ddim credu fod y drafodaeth hyn yn cymryd lle...
Rhys, mae Rhythm and Blues yn dod o Dalaethau De yr America felly nid yw'n gerddoriaeth Cymreig (dyna Meic Stephens wedi ei fanio o gigs Cymdeithas "Iaith" Rhys Llwyd)
Mae Hip Hop yn dod o'r Bronx, Efrog Newydd felly nid yw'n gerddoriaeth Cymreig (Pep Le Pew yn banned o gigs Cymdeithas "Iaith" Rhys Llwyd)
Y pwynt yw fod llawer o Gymru Cymraeg ifanc yn hoff o gerddoriaeth dawns, a dydy o ddim yn beth Saesneg o gwbl, mae'n fyd-eang, ma na bobl o bob math o wledydd a iaith yn ei hoffi, mae'n goroesi ffiniau ieithyddol, gwleidyddol a cenedlaethol. Dwi'n meddwl fod Cymru Cymraeg yn ddigon hyderus i allu fod rhan o'r mudiad byd-eang trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae na ddigon o sgop i gael gigs o bob math i blesio pawb.
Beth wyt ti'n teimlo felly ydi adloniant addas i Gymry cymraeg?
Rhys Llwyd a ddywedodd:Blincin rave nights - diwylliant Cymrag all ddy way, as if!
Rhys Llwyd a ddywedodd:cam ddehonglu popeth wi di dweud. Alldi ddim cymharu Meic Stevens, PLP a Excape. Excape=adloniant Saesneg, Meic+PLP= adloniant Gymraeg! Stim problem da fi gal nosweithi ddawns da pobl fel DJ Dafis, cos ma nwn Gymrag. Deall?
Rhys Llwyd a ddywedodd:Jonny R a Mac - os da chin credu mor gryf fod CYI yn methu trefnu adloniant da, pam na wnew chi drefnu rwbeth gwell yn fyw?
Nes ti ddim son dim am noson Escape pryd hynnu. Dim ond un noson oedd Escape ar Maes E llynedd, felly pam oeddet ti'n son am "rave nights"?
Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai