I dot

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 09 Ion 2004 2:22 pm

Y jôc ydi bod gen ti ddigon o ddeunydd craidd ar maes-e i lenwi gwerth cyfres o eitemau ar i-dot, neu unrhyw raglen 'yoof' arall tasai'n dod i hynny.

Os ti'n defnyddio dy ddychymyg. Wps. Rhy anodd i rai.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Pancws Bach » Gwe 09 Ion 2004 2:45 pm

lyns a ddywedodd:Edrychwch ar Gymru yn trio dynwared Jonathan Ross :rolio:

1. y pedwar perfyn - www www, ymm four pwffs ?????
2. mynd i'r green room i weld y gwesteion - www ymm, adleisio Jonathan Ross eto??????


Hmm, dwi'n cofio'r Perverts ar I-dot pan oedd o ar o' blaen - wastad wedi cym'yd diddordeb yn unrhwbeth ma Peredur "bit of rough" ap Gwynedd yn i neud.:winc:
Hefyd, dwi'n cofio nhw'n mynd i'r green room i weld y gwesteion yn y rhaglenni blynyddoedd 'nol - ymhell cyn rhaglen Mr Ross methinks?

lyns a ddywedodd:Uchafbwynt yr awr - HUW A HUW - gwych gwych gwych - da iawn - bownso off eu gilydd yn dda iawn - ARRRRRRRBEnnig Dyma beth fydda i'n edrych ymlaen i weld pob wythnos. :winc:

Cytuno - y ddau efo cemeg llwyddiannus. Falle eu bod nhw'n ffrindiau tu allan i teliland? Bydd angen i Lisa a Rhydian weithio ar y cemeg 'na . Ond dwi'm yn siwr os fyddan nhw efo'i gilydd bob wythnos achos oedd Huw S yn deud mai eitemau miwsig oedd o'n gneud a Huw E yn neud y stwff backstage, ia ddim?
Pancws Bach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Gwe 09 Ion 2004 2:28 pm
Lleoliad: ar faen neu lech bobi

Postiogan Chardonnay » Gwe 09 Ion 2004 3:29 pm

Cynhyrchydd: Reit, ma' gynai syniad gret, hollol gwreiddiol gogyfer
a gwestai y gyfres newydd.

Lisa a Rhydian: Beth?....Pwy?

Cynhyrchydd: Wel, yn lle symud ymlaen, o'n i'n meddwl cymryd 'chydig
gamau 'nol.

Rhydian: O ie (Clap clap plentynaidd), trwy wneud beth? (Crafu pen)

Cynhyrchydd: Trwy gyfweld a fi wrth gwrs... allai siarad am y dyddiau da
ar i-dot... and don't you rain on my parade Lisa-Jen!

LIsa: o...o....

Cynhyrchydd: Ie? Spit it out!....

Lisa: o.....o

Cynhyrchydd: Dim chance o hwnna'n digwydd, blank arall ife bach?. O.k, pawb yn hapus?

Rhydian: Yey!! Yey!!! Dewch mlan pawb! Yey!!!! (Rhydian yn clapio ac yn ceisio cael pawb yn y stafell i'w ddilyn - Planed. P trick)

Copyrights: Chardonnay !!
"It's been a great year for the transeasonal trouser" - Patsy Stone.
Chardonnay
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 09 Ion 2004 11:54 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ffarout » Gwe 09 Ion 2004 4:00 pm

My 10p worth:

Wnes I sylwi ar y cysylltiadau gyda Jonathan Ross hefyd.

Rhaglen gret I'r ifanc...Rhodri Morgan fel gwestai!? - come on...

Sain gwael I PLP..a oedd Aron I fod neud y sain trwmped yna - er fe
wnaeth e neud I fi chwerthin! Odd e ddim yn PLPaidd

Roedd Cate Timothy yn dda iawn, uchafbwynt pendant.

Gwnaeth maharishi grwnian mlaen ychydig bach yn ormod.

Odd yr huws yn dda iawn, pawb yn cytuno ar hynny.

Doeddwn ni ddim yn meddwl fod Mathew a Beca yn ddiddorol o gwbl, heb;aw
am y cyflwynydd a oedd yn mynd yn flustered gan bod y ddau yn mynd ar
rhyw danjent a ddim yn sticio gyda'r sgript/autocue

Roedd yr holl beth yn teimlo fel "CF39" - y peilot gyda ceri a Cate

Gobeithio wneith pethau wella a bod nhw dod dros y set, sydd ddim mor
dda a hynny.

- diolch Lyns :winc:
"not doin anythin here, jus doin nothin"

http://www.slacyr.co.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Ffarout
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 239
Ymunwyd: Iau 27 Chw 2003 4:14 pm
Lleoliad: Conwy

I shite

Postiogan Arabiata » Gwe 09 Ion 2004 6:17 pm

Y peth di, iawn odd mab hywel gwynfryn yn well na'r gweddill ond dwi ddim yn credu ryw sut fod o yno ar merit. Dwi'n siwr fase John Huws o Sarn Mellteryn yn gyflwynydd da ond gan fod o ddim yn fab i rywun, fydd o byth ar I dot. Cyfryngis Cyfryngis ma nhw'n neud fi'n sal.
Wel yn syml, dani'n haeddu gwell. Lisa jen ffycin hel. Oedd hi'n cwyno wrth y dorf mai dyma oedd ei rhaglen gyntaf, ond c'mon ydi cefin roberts wedi dysgu digon iddi yn Ysgol neis Glanaethwy i fod yn superstar ag i fod yn broffesiynol? Nadi ma rhaid
Weles i rioed gymaint o heip am raglen oedd erioed yn y lle cynta heb roi y byd ar dan.Doedd hi ddim yn cweit yn Video 9 nag oedd?
S4C de mwy o heip nag o sylwedd. Bwstio egos hefyd wrth gwrs. Mae S4C mor hunangyfiawn yn gwybod yn union be da ni ifanc angen. Ond dydyn nhw ddim
Odd popcorn yn raglen syml a ddim yn trio bod yn cwl, Sesiwn Hwyr yn boring ond o leia fod y raglen yn canolbwyntio ar y miwsig.Ond ma'r flwyddyn newydd wedi ailddechrau'r hunllef.
Arabiata
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Sul 05 Hyd 2003 2:15 pm
Lleoliad: Caernarfon a bob man arall dwi'n landio

Postiogan Dyl mei » Gwe 09 Ion 2004 6:18 pm

[/quote]Shomedig da Pep Le pew

Cytuno, Ddim ein perfformiad Gora erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Mwddrwg » Gwe 09 Ion 2004 7:15 pm

o ystyried mai rhaglen gerddoriaeth fyw ydi idot i fod - roedd safon y sain yn disgres.

roedd y cyflwynwyr yn wael - arwahan i Huw a Huw. bob amser yn gallu dibynu ar Huw Stephens i ddod a class i raglen. ac mi odd Huw Evans yn dda iawn (dim gwahaniaeth pwy yw ei dad)

y siom fwyaf oedd maharishi - dan ni gyd yn gwbod pa mor wael ydyn nhw - ond pam cael nhw i chwarae ar ddechrau cyfres newydd? colli cyfle i roi llwyfan i fandiau newydd mwy addawol a ffres.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan trwyn hir blewog » Gwe 09 Ion 2004 9:10 pm

Cytuno da'r general vibe!! loads o hype cyn y sioe am ddim rili! ma angen i rywun ddweud wrtho'r cynllunydd set fod y "goth look" wedi mynd mas o ffasiwn ers ages!!Maharishi yn ofnadwy fyd-mwy o fywyd mewn mould! timlo dros Huw.E yn y cyfweliad!! nhw dau odd yr unig beth nath gadw fi wotcho rili-y ddau Huw! Brill!! ishe cal gwared a Rhydian a Lisa-Jen(er odd hi ddim tw bad) a just cal awr o Huw a Huw!!
a pam cyfweld TRI o'r pobl tu ol llwfan?!?! BORING!
sdim ots os odd pep le pew ddim ar eu gore-digon o eye-candy i neud lan am y peth!!
Rhithffurf defnyddiwr
trwyn hir blewog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Sul 04 Ion 2004 10:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth

i DOT

Postiogan Rhys_Moon » Gwe 09 Ion 2004 9:47 pm

Wel ti'n gwbod dwi di siomi braidd efo teledu Cymraeg, dio ddim digon riskey t'mod. Pan oedden ni yn mynd i gigio yn East End llunden rownd cwpwl o glubs yn 1980au, 'oedd rhaid cael y crowd o'ch plaid sy'n beth annodd. Dwi'n cofio unwaith pan oedd cwpwl o fechgyn hard as nails yn y crowd mewn yn club rough looking yma. Wel naethon ni lwyddo i gael nhw onside yn y diwedd. Dyna fethodd cyflwynwyr I dot i neud. Roedd y crowd bach yn lippy ond dyna ti'n gorfod disgwyl mewn show business. Rise to it and go with the flow ti'n gwbod
"Fi ddechreuodd y Srg"
Rhys_Moon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 30 Rhag 2003 1:46 am

Postiogan Dai Tecsas » Gwe 09 Ion 2004 11:55 pm

hi
Fi'n hoffi i-dot
Dai Tecsas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Sul 05 Hyd 2003 9:16 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai