Llinos Dafydd a ddywedodd:Weddol siomedig da'r rhaglen ar ol yr heip!!
A finna - ffycin shit o raglan. Pam, o pam fod rhaid i bob affliw o bobdim ar S$C fod moooor ddiflas ac ail-dwym? Cyfweld Rhodri Morgan - iawn, oce, ond be ddiawl oedd Rhydian yn feddwl oedd o'n neud yn siarad ar ei draws o, ac yn ei frysio fo bob dau funud i orffan brawddeg doedd o mond newydd ei chychwyn?? Cymoffit, ti'm yn gneud hynna dim ots pa mor fyw di'r rhaglan.
Biti rili bod y rhaglen wedi ei seilio yn gyfan-gwbl ar pa mor BRILIANT!! oedd i-dot o'r blaen. Doedd o ddim mor dda a hynna, a mi oedd y faith bod pawb yn ei ramantu fo'n ddiawledig a'r holl ffys am "fod yn ol!" ddim yn helpu cuddio'r ffaith ei bod yn raglen biso dryw
Llinos Dafydd a ddywedodd:ac am y cyflwyno, wel gwarthus!! (yn enwedig Lisa) .
Dwi'n anghytuno fanna. Oce, ella'i bod hi wedi cal blank - ond tydi pawb? O leia mi ddeliodd efo'r peth yn brofesiynnol. Oni'n meddwl ei bod hi'n naturiol ac yn dangos potensial ac yn disgleirio fathag emrallt ochr yn ochr a Rhydian oedd fatha rhyw afr annoying ar dranna.
A tasa hyn i gyd ddim yn ddigon, mi oedd na eiliada crinji o gags cachu yn tanlinellu'r cach disylwedd...
Safon cerddoriaeth set PLP braidd yn warthus (ond dwi'm yn meddwl bod bai ar PLP am hyn) Ond ar y llaw arall, ella mai'r signal oedd ar fai - cal traffarth derbyn S$C yn iawn a finna'n byw yn nghalon Prifddinas Cymru! Be nesa dwch? )
Licio Cate lot, ma rhaid i fi ddeud - rioed 'di chlywad hi o blaen. Licio Huw&Huw fyd.
Ydwi i'n bod braidd yn llawdrwm? Yndw ella, ond ma angan bod - ma angan bod yn feirniadol neu aros fel candi-fflos arwynebol y bydd bob dim. Ma bobl ifanc yn ddeallus hefyd 'chi! Oce, dwi'n dallt mai adloniant ydi o i fod, ond dydi o ddim hyd yn oed yn cyrraedd y safon hwnnw. Oni'n bored.