Tudalen 1 o 7

Enwau Bandiau

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:11 pm
gan m.c.macrall
A fi yw’r unig un sydd wedi cael llond bol o grwpiau efo rhyw enwau di-iaith cachlyd, be uffar sydd yn mynd ymlaen. Bron fod y tueddiad yma wedi arwain at cenhedlaeth o fandiau efo enwau sydd yn golygu dim. Be mae haneswyr yn mynd i feddwl wrth edrych yn ol ar y cyfnod yma ?

“Mmm roedd Ieuenctid y dydd wedi llyncu’r propaganda dwyieithrwydd yna yn gyfangwbwl, y ffyliaid !” e.e.

Be sy’n bod ar gael enwau Cymraeg gwreiddiol (Yr Angladd Hapus, Ffrwchnedd Nain neu’r Hoywon Melyn e.e.)? A oes yna unrhyw hyder ar ôl ynddo ni fel siaradwyr Cymraeg ? Ia siaradwyr Cymraeg, nid pobl dwyieithog, allaf siarad Ffrangeg a Sbaeneg hefyd ond Cymraeg yw fy iaith gyntaf, a hoffwn weld sin Gymraeg !

Mae gen pawb yr hawl i ddefnyddio unrhyw iaith a mynnent, (er nad yw mor ddu a gwyn a hynny oherwydd pwysa sydd arnom i gyd i gydymffurfio a siarad Saesneg) ond beth am ddangos bach o barch i’r Gymraeg a hunan barch fel siaradwyr Cymraeg.

Edrychaf ymlaen i ymateb ddamiol gan lwyth o “librals dwyieithog”.

cytuno

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:23 pm
gan Gorwel Roberts
Cytuno'n llwyr. Ddechreuais i edefyn am hyn dro'n ol a'r argraff ges i oedd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn y sefyllfa shait sydd ohoni.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:25 pm
gan kool
Paid meddwl gormod am pethau di bwys. Os ti moen dechrae band newydd, gallet ti defnyddio rhai o dy syniadau personnol am enw. Problem solved.
Wyt ti'n cefnogi band oherwydd yr enw neu oherwydd y cerddoriaeth?
:D

Enwau Bandiau

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:25 pm
gan cythral mewn croen
Dwi'n cytuno i'r carn. Dwn im be sy'n bod efo pobl dyddia yma, ond ella bo cael enw Cymraeg ar fand ddim digon cwl i 'cwl Cymru' , sori ddim digon 'tew' i fod yn 'cwl' neu beth bynnag atab wanclyd ma'r 'dwyieithwyr' liberal ma'n ddweud.

Da ni fod yn Gymry, felly beth sydd o'i le efo cael enw Cymraeg ar fand?

Ella fod y bandiau saesnigaidd 'tew' yma yn meddwl wrth gael enw saesneg, ma nhw'n mynd i 'gracio lloegr' ...... ma rhaid iddyn nhw gael cerddoriaeth, sori 'music' o savon cyn hynny.

ac i ymateb i sylwadau kool, efo'r bandiau sydd ogwmpas dyddia yma, fasa chi ddim yn gwybod fod band Cymraeg yn chwarae wrth sbio ar y posteri sy'n hysbysebu'r gig efo enwau mor gachlyd

:rolio:

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:32 pm
gan Llewelyn Richards
Yr Angladd Hapus a'r Hoywon Melyn. Dau fand gwych sydd wedi mynd ar goll yn niwl y sîn. Dyddiau da.

Cytuno bod gormod o wannabes efo enwau Saesneg cwbwl ddiddychymyg a diflas, fel eu miwsig gan amlaf. Penderfynwch hogia - Cymry ta Saeson ydach chi?

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:38 pm
gan kool
Roedd y band Angladd Hapus yn cool as fuck fi'n cofio mynd i weld nhw yn Aberogofymwnci yn chwarae 3 hour sets. Siom naethon nhw ddim cario mlaen. Good enw. Dyna oedd ei llwyddiant yn fy marn i. Y chwarae ar eiriau 'Angladd' gyda 'Hapus'. Hiwmor pur

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:56 pm
gan twat
Nid yr enw ond y cerddoriaeth sy'n bwysig ! ac oes di enw y band yn golygu rhywbeth i aelodau y band mae hyna ddigon da i fi!

TWAT

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 1:56 pm
gan Ifan Saer
Be ydi'r obsesiwn efo taleithiau america?

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 2:02 pm
gan Llewelyn Richards
Wedi bod yn turio drwy'r archifau ar ol gweld yr edefyn ac wedi ffeindio hen dâp o EP yr Angladd (fel y'i gelwid hwy gan eu dilynwyr ffyddlon. Y ddau ohonynt)

Y teitl oedd "Mae Pawb yn Hapus yn yr Angladd Hapus".

Wele'r caneuon:

1. Twats sy'n siarad Saesneg 4:12
2. Dwi'm isho bod yn kool 3:22
3. Halio mewn crempog 2:50

Clasur. Wir i chi.

PostioPostiwyd: Iau 15 Ion 2004 2:16 pm
gan Dyl mei
aw Cmon! be ddiawl gan y ffaith os mae enw hefo band saesneg ne cymraeg i neud hefo ei cerddoriaeth? dio ddim yn fater o

"Ydych chi yn cymraeg ne saesneg?"

dio ddim yn fater o bod yn Cwl ne beidio, just mater o be sydd digwydd bod yn ffitio ar y pryd.

Gallaim deud syt ddoth Pep le pew i ddefnyddior enw oherwydd ymunais i
wedyn ond hefo project "Gwallt mawr Penri" Just digwydd swnion iawn oedd o, ddim pigo enw oherwydd oedd on cymraeg ond oherwydd o ni'n licio fo. rhyn peth hefo "y lladron", "mehefin yr gyntaf" ac "uchelgais i lladd cath"

cythral mewn croen, pam ymosod ar yr enw "tew"? pam trio rhoi rhywbeth i lawr yn syth? dos allan i neud rhywbeth posotif dy hyn gyntaf.


ar y volvo bathodyn tafod y ddraig.