Enwau Bandiau

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan kool » Iau 15 Ion 2004 2:18 pm

Llewelyn Richards a ddywedodd:Wedi bod yn turio drwy'r archifau ar ol gweld yr edefyn ac wedi ffeindio hen dâp o EP yr Angladd (fel y'i gelwid hwy gan eu dilynwyr ffyddlon. Y ddau ohonynt)

Y teitl oedd "Mae Pawb yn Hapus yn yr Angladd Hapus".

Wele'r caneuon:

1. Twats sy'n siarad Saesneg 4:12
2. Dwi'm isho bod yn kool 3:22
3. Halio mewn crempog 2:50

Clasur. Wir i chi.


Classic Single! Ma copi gyda Dad, Twats sy'n sairad Saesneg - can ddoniol, eitha eironig, gan odd y band yn dod o cefndir dwyieithog, a thema'r gan yw Hipocrits dwyieithog sy'n medru siarad Saesneg.

Dwi'm isho bod yn Kool, - Anthem bersonol i fi!

Halio mewn Crempog - Anthem i rai bobl. Can am ffordd o fyw rhai pobl yn Nghymru.

A'i nhw ganodd y gan 'Sir Fon, Sir Fon - o hyfryd Sir Fon'.
Rhithffurf defnyddiwr
kool
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 172
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 4:29 pm

Postiogan cariadgweno » Iau 15 Ion 2004 2:25 pm

Fel dwi di deud yn y gorffennol, mae'n bwysig cal y kids on side ti'n gweld. Ma'n bach o shame os di hynny'n golygu cal enw saesneg, ond os ma fel na ma'r cookie'n crymblo - we've just got to role with it. Os di cael enw Seusneg ar fand yn helpu efo'r hyrwyddo ac efo cal y kids yn interested mewn stwff Cymraeg yna dwi ofn bo fi all for it ti'n gweld. Personally, ti'n gweld, dwi'n tueddu i stakeio am enwau fel Guacs sydd ddim yn Gymraeg na Seusneg.
Rhithffurf defnyddiwr
cariadgweno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 3:44 pm

Postiogan Llewelyn Richards » Iau 15 Ion 2004 2:30 pm

Sbot on Kool, rhyddhawyd Hyfryd Sir Fôn a Taid ti'n dwat fel EPs olaf cyn y gigs ffarwel ym Mhort Talbot a Scunthorpe, lle'r oedd y fanbase yn gryf iawn ymysg y gweithwyr diwydiannol.
Mae hiraeth mawr amdanynt.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Enwau Bandiau

Postiogan Jac y Diawl » Iau 15 Ion 2004 3:17 pm

cythral mewn croen a ddywedodd:Da ni fod yn Gymry, felly beth sydd o'i le efo cael enw Cymraeg ar fand?


be sy o le efo cael enw sy'n golygu rhywbeth i'r band yn bersonol?
Watch my Speed!
Rhithffurf defnyddiwr
Jac y Diawl
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1014
Ymunwyd: Maw 16 Medi 2003 1:24 pm
Lleoliad: Caerdydd

gutted

Postiogan *HERO69* » Iau 15 Ion 2004 3:23 pm

mae'n anodd i gredu beth gall pobl cwyno am, plis wnewch chi ddeall dyw'r artistiaid hyn dim yn ymuno a'r bandiau a creu cerddoriaeth i hybu'r iaith gymraeg - na'r iaith saesneg na unrhyw iaith o gwbl!! dim ond rhannu eu cerddoriaeth . (credwch neu beidio).

ta beth gall rhywun enwi band "llwyddiannus " efo enw cymraeg ...

cyn i chi dechrau ar y brawddeg uchod, dwi'n meddwl mai i "llwyddo" yn y byd cerddoriaeth yw i ennill bywoliaeth drwy ysgrifennu a rhannu cerddoriaeth...
Fi'n mynd i safio'r SRG o'r Port connection
Rhithffurf defnyddiwr
*HERO69*
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 391
Ymunwyd: Llun 15 Rhag 2003 12:04 pm
Lleoliad: Carffosiaeth

Postiogan mul » Iau 15 Ion 2004 3:28 pm

dwi'm yn gweld problem efo enwau bandiau, pa bynnag iaith, ond be sy' yn mynd ar fy nerfau i ydi defnydd hollol slafaidd o'r gymraeg e.e. "am cyfan dy pethau prydferth"
mae'n siwr mai fi sy'n anal iawn pan mae'n dod i'r iaith, ag ella'n bob yn stiwpid os oes eglurhad dros y teitl uchod...
Rhithffurf defnyddiwr
mul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Maw 16 Rhag 2003 3:00 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 15 Ion 2004 3:58 pm

Y rheswm dros yr enw 'Am Cyfan Dy Pethau Prydferth' yw mai cyfieithiad gwael nath neud i'r canwr chwerthin oedd e. Wy'n credu bod hynny'n enghraifft wych o rywun yn cael ei dylanwadu gan yr hyn sydd o'u hamgylch ac yn ei ddefnyddio'n greadigol, ac ni glynu'n slafaidd at unrhyw agenda.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan mul » Iau 15 Ion 2004 4:06 pm

'gwych' am ddefnyddio cyfieithiad gwael? dwi'n anghytuno. ella fod ganddo fo ystyr personol i'r artist, on dwi'm yn ffendio fo'n wych nag yn ddiddorol, ond mae o'n wreiddiol amwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
mul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Maw 16 Rhag 2003 3:00 pm

Postiogan cythral mewn croen » Iau 15 Ion 2004 4:36 pm

Tyd laen Dyl Mei..... 'tew', 'phat' fel ma rapiwrs yn ddeud, be nesa ? cael gigs 'swn' i efelychu dywediad Maenceinionaidd 'sound' ?

Dyna di'r gwir amdanni, ma'r bandiau ma sydd yn defnyddio enwa' saesneg mond yn meddwl am chwarae yn lloegr, lle mae'r pres... diwedd y gan di'r geiniog. trist iawn feri sad
Gan y gwirion ceir y gwir
Rhithffurf defnyddiwr
cythral mewn croen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2003 2:32 pm
Lleoliad: Gwynedd / Ynys Mon

Postiogan Jac y Diawl » Iau 15 Ion 2004 4:55 pm

cythral mewn croen a ddywedodd:Tyd laen Dyl Mei..... 'tew', 'phat' fel ma rapiwrs yn ddeud, be nesa ? cael gigs 'swn' i efelychu dywediad Maenceinionaidd 'sound' ?

be am 'sain'.
swn=noise
sain=sound
ti ddim yn 'appening iawn os ti ddim yn gwbod hwnna!
Watch my Speed!
Rhithffurf defnyddiwr
Jac y Diawl
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1014
Ymunwyd: Maw 16 Medi 2003 1:24 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai