Enwau Bandiau

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dyl mei » Iau 15 Ion 2004 5:10 pm

wel dyna lle tin anghywir Cythral mewn croen, Mae tew ddim Byd i neud
a "Phat"..cofio bod dyddi gethin ev a gweddill y trefnwyr ddim Byd i neud a hip hop. mae "Tew" ni, yn feddwl "fat"....


"You are Fat"

ac ddim

"This is Phat".

dwim yn gweld mynd i Lloegr yn Hynna o beth drwg chwaith. spia ar Loopy Loo ar Maes-E....merch o Portsmouth wedi dysgy Cymraeg ar ol clywed bandie Cymraeg fel Super furry animals ac Gorkys. faint o pobol sydd di stopio siarad y iaith ar ol iddynt clywed band cymraeg?

ddigon teg bod ti ddim yn cytuno hefo fo..dynna di farn. ond plis paid a rhoi bandie lawr am cael Uchelgais i neud hi yn bellach na ffiniau Cymru. dydi canu saesneg(ne unrhyw iaith arall) ddim yn neud neb yn llai o gymro.

Does neb byth yn cwyno am Rhys ifans yn action Hollywood ne Bryn terfel yn canu mewn ieuthoedd eraill felly pam neud y rhyn peth am bandie cymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan m.c.macrall » Iau 15 Ion 2004 5:57 pm

Di hyn ddim yn ddadl am pobl yn canu yn Saesneg na cael enwau Saesneg, dadl am rhoi rhywbeth nol i ddiwylliant cyfoes Cymraeg yw hi. Do mi newidiodd y Cyrff a Ffa Coffi, a mi gannodd Stevens yn saaesneg hefyd ond roeddent wedi cyfrannu llwyth i’r sin yma, a phob lwc iddynt. Ond di pobl ddim yn gweld hynny.

“Beth am gael enw di-iaith rhag ofn i ni cachu ar ein chips yma, ti byth yn gwybod ella gawn ni lwyddiant yn Lloegr, duw neith rhyw un can Cymraeg ar yr album y tro, ia côn....”

Y cyfan dwi’n deud ydi fod gan siaradwyr Cymraeg rhyw fath o ddyletswydd moesol i hachub eu iaith, a mae creu diwylliant cyfoes yn rhan o hynna ! Mae popeth cyflawnodd Y Blew, Stevens, Edward H, Y Cyrff a Ffa Coffi a.y.y.b. yn cael ei chwalu.

Y problem yw ein bod yn byw mewn oes o bropaganda difaterwch a dwyieithog sydd yn cael yw greu gan y llywodraeth i’n cadw yn ein lle, a mae’n sin yn adlewyrchu huna’n perffaith(wrth eithrio rhai, Dyl Mei ac eraill e.e.) !
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 1:02 pm

Postiogan Dyl mei » Iau 15 Ion 2004 7:19 pm

M.C macrall, dwim am ffruo hefo dy Pwynt am rhoi rhywbeth yn ol
ir Cymuned Cymraeg, mae Hynnan pwysig iawn dwin meddwl.
just amddifin enw "Tew" O ni! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Cynan Bwyd » Iau 15 Ion 2004 8:09 pm

dwin meddwl bo cael enw saeneg i band syn canu yn y gymraeg yn iawn. just bo nw yn canu yn y gymraeg ma fen iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cynan Bwyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1936
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 5:29 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Iau 15 Ion 2004 8:54 pm

Oes ots ar enw - y cynnwys sy'n bwysig - os ydy band yn y srg yn canu'n gymraeg a dimond cymraeg ac yn hybu'r iaith pob modd posib - beth yw'r ots os taw enw saesneg/iaith arall yw'r enw. :crechwen:
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan babz121 » Iau 15 Ion 2004 9:38 pm

Jysd a mynd i gysgu ar ol darllen y dudalen yma!
Yr unig beth y dwin weld ydi pobl yn mynd rownd mewn cylchoedd!!

Dim otch be di enw'r band neu pa iaith ydio!
Be syn bwysig ydi i bobl gofio'r enw a garu'r miwsig am mai hwna dir peth pwysica yn y diwadd!!!

Bla bla
dim colur cyn coleg!
babz121
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 5:18 pm
Lleoliad: Llanbabz

Postiogan Cynan Bwyd » Iau 15 Ion 2004 11:06 pm

ia dynna be rhoiddwn i yn trial ei ddeud!
Rhithffurf defnyddiwr
Cynan Bwyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1936
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 5:29 pm
Lleoliad: Aberystwyth

enwau

Postiogan Rhys_Moon » Iau 15 Ion 2004 11:59 pm

Dwi'n poeni braidd am y cariad gweno ma ti'n gwbod. Dwi meddwl fod canu'n Saesneg erbyn hyn yn passe t'wel. Ma'r ffad yna wedi pasio a canu'n Gymraeg yw'r ffordd ymlaen ti'n gwbod. Mae isio nytar i fynd a'r Gymraeg i bob man a dyna sy'n bwysig. Mae arna ofn fod cariad Gweno heb dalu sylw digon arna i. Bach o shame braidd gan mai fi oedd y cynta i sbotio Catatonia.
Ma bob dim yn ongoing y Sin twel
"Fi ddechreuodd y Srg"
Rhys_Moon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 30 Rhag 2003 1:46 am

Postiogan DAN JERUS » Gwe 16 Ion 2004 10:28 am

Hei Rhys, sgen ti lyniau o Gwenno alli di werthu imi? go on! go ooooon! :winc: :winc: :winc:
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan m.c.macrall » Gwe 16 Ion 2004 12:17 pm

babz121 a ddywedodd:Jysd a mynd i gysgu ar ol darllen y dudalen yma!
Yr unig beth y dwin weld ydi pobl yn mynd rownd mewn cylchoedd!!

Dim otch be di enw'r band neu pa iaith ydio!
Be syn bwysig ydi i bobl gofio'r enw a garu'r miwsig am mai hwna dir peth pwysica yn y diwadd!!!

Bla bla


Ia, mae cerddoriaeth da yn bwysig ond dwi isho gwrando i gerddoriaeth da yn Gymraeg. Mae'n ddrwg gen i os yw hynan afresymol ! Mae ffaith fod pobl yn gallu'r Gymraeg yn rhoi cyfle iddynt cynnig rhywbeth gwreiddiol o rhan iaith a diwylliant a gogwydd(di hynan air iawn ?) gwhanol ar y byd i'r byd megis S.F.A. (sydd efo enw susnag ond maint dal yn cyfranu i ddywilliant Cymraeg a byd eang). Ond yn anffodus mae rhai pobl yn rhy cwl i weld hyna !
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 1:02 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron