Tudalen 4 o 7

enwau bandiau

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 1:04 pm
gan cythral mewn croen
Dyl Mei sut fedri di alw rwbath fel gig yn 'dew' ? Fedri di ddeud tew wrth ddisgrifio rhywbeth megis, person, anifail, pidyn a.y.y.b. Ond sut fedri di alw gig yn dew? A pam yn lle dweud hwyl fawr wrth Huw Evans (ap Gwynfrun) cyflwynydd rech ar i-dot, deud ''ia .... tew, tew'' Be uffar di peth felly ond defnydd gwael o iaith hyfryd?

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 1:46 pm
gan kool
Beth yw'r problem gyda defnyddio geiriau. Un munud ti'n cael problem gyda geiriau/enwau Saesneg nawr mae problem gyda thi am pobol sydd yn defnyddio geiriau Cymraeg. Beth yw'r problem wyt ti'n casau'r Iaith Saesneg a Saeson? os ie, mae hynnu'n destun amherthnasol i'r ederfyn Y Sin Roc Gymraeg. Get out of the pool!

enwau bandiau

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 2:21 pm
gan cythral mewn croen
iawn felly tew. Os da ni fel Cymry Cymraeg melyn yn mynd i ddechra defnyddio mawr geiriau random llithrig mewn brawddegau gwymon, buan iawn bydd yr iaith yn dirywio, yn yr un modd tenau, pan fydd bandiau carregog Cymraeg yn dechrau defnydio enwau a geiriau saesneg, bydd hynny hefyd yn cael effaith drawiadol ar ein iaith. Os na fydda ni'n ei ddefnyddio yn gywir, fydd yr iaith yn marw. Brown braf maethlon llon gwair yeah babwn.

o.n. mae'n ddrwg geni am ddefnyddio'r geiria amherthnasol yn fy neges, ond trio gneud pwynt ydw i

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 2:36 pm
gan Dielw
tw true, cythral, neu ein lyrics bydd yn rolio off y tafod fel yma yn yr end. Ych a fi!

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2004 4:40 pm
gan Cynan Bwyd
ma deud TEW yr un peth a deud safe ney saff. smo fen neud sense yn y frawddeg ond ma na rhywfath o deallodrwydd ( yw hwynna air?) iddo fe. TEW!!

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 1:20 am
gan babz121
timlon sal!
dal ddim yn deall pam fod y ddadl yma yn mynd ymlaen!!!
am wasd o amser ta be?!!
iesu mawr ma homosapiens efo well petha i neud na hyn shwr dduw!!
miaw miaw wyff wyff!! :rolio:

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 11:29 am
gan Cynan Bwyd
ia nol at y pwynt - enw bandiau. os un o chi'n gwbo ol gath Pep le pew ei enw?! a beth actully ma fen ei olygu

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 4:22 pm
gan evans
cymeriad mewn hen cartoon warner brothers dwin meddwl,odd y cymeriad yn skunk,referance cyffuriau-im asuming falle bo fi'n rong

PostioPostiwyd: Sad 17 Ion 2004 8:33 pm
gan Cynan Bwyd
o reit. diolch! :)

PostioPostiwyd: Sul 18 Ion 2004 7:54 pm
gan Dyl mei
Cythral, dwin meddwl tin cymeryd y Holl beth "Tew" Bach yn ddifri dwyt,
maer holl syniad i fod yn rhywbeth cofiadwy, mae "Tew" yn gair syn hawdd i cofio ac hefo bach o Hiwmor hefyd( ac bach yn "annoying").

beth ddiawl syn bod hefo galw gig yn tew? gewn ni alw gigs dy nin trefny
yn rhywbeth dy ni isho ei alw! ta fysa well gen y chdi ni alw fon "noson lawen"? i gadw hefo'r cymraeg traddiodadol?

ac dydi defnyddio tew mewn cyfweliad ddim yn defnydd drwg or iaith, jyst y fordd dwin dewis i ddefnyddior iaith Hyfryd.