Postiwyd: Maw 20 Ion 2004 9:51 am
Yn fy marn i mae'r rhai ohonoch sy'n condemnio'r bandiau hyn am gael enwau Saesneg yn bod yn gul ac yn wrth seisnig. Beth sydd o'i le ar i fandiau ddefnyddio enw sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw? Os ydyn nw wedi seisnigeiddio a'n meddwl yn saesneg, mae'n ddigon teg iddyn nw gael enw saesneg fel byddai unrhyw sais arall yn gwneud. Rhagfarn yw barnu bandiau ar eu henw. Nonsens ydi meddwl bod yna unrhyw reswm masnachol dros roi enw seisnig - dwi'm yn meddwl bod hyd yn oed Zabrinski i hunan yn meddwl bod nw wir yn mynd i'w neud hi'n fawr yn Lloegr.