Tudalen 6 o 7

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2004 9:51 am
gan Danny Horner
Yn fy marn i mae'r rhai ohonoch sy'n condemnio'r bandiau hyn am gael enwau Saesneg yn bod yn gul ac yn wrth seisnig. Beth sydd o'i le ar i fandiau ddefnyddio enw sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw? Os ydyn nw wedi seisnigeiddio a'n meddwl yn saesneg, mae'n ddigon teg iddyn nw gael enw saesneg fel byddai unrhyw sais arall yn gwneud. Rhagfarn yw barnu bandiau ar eu henw. Nonsens ydi meddwl bod yna unrhyw reswm masnachol dros roi enw seisnig - dwi'm yn meddwl bod hyd yn oed Zabrinski i hunan yn meddwl bod nw wir yn mynd i'w neud hi'n fawr yn Lloegr.

dim srg

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2004 11:16 am
gan Gorwel Roberts
Sgin i ddim byd yn erbyn y busnes yma mewn egwyddor ond mae o i'w weld fel tasa PAWB yn ei neud o a fydd dim SRG ar ol yn y diwedd dyna'r drwg.

Dwn i ddim pam mae pawb yn slagio'r bobl TEW 'ma chwaith. Maen nhw'n gwneud lot i hybu'r sin fyw a chreu pethau diddorol

Re: dim srg

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2004 11:28 am
gan Danny Horner
Gorwel Roberts a ddywedodd:Dwn i ddim pam mae pawb yn slagio'r bobl TEW 'ma chwaith. Maen nhw'n gwneud lot i hybu'r sin fyw a chreu pethau diddorol

Dwi'm yn dallt y dadla ma yn erbyn TEW chwaith. Mae o'n Gymraeg dydi? Neu oes rhaid i bo peth fod yn llenyddol heb unrhyw ddylanwad o'r tu allan. Fysa nw'n gallu defnyddio'r un ddadl i ddeud bo na ddim angen hip hop cymraeg na hud noed roc chos bo nw'n dilyn dylanwad eingl-americanaidd. Ma siwr bo nw'n recno ddylia pawb dal fo'n chwara'r delun, canu mewn cor meibion neu neud blydi dawns y glocsen.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2004 1:16 pm
gan cythral mewn croen
ha ha ha dangos dy glocsen! :lol: Os bu na ddim dylanwadau o'r tu allan, ni fuasai ceddoriaeth yn datblygu.

a cytuno, bechod yw fo na ddim llawer o fandiau efo enwau Cymraeg.

a chwarae teg i tew, mae yna lot o gigs wedi cael eu trefnu o dan yr enw, sydd yn hybu cerddoriaeth o Gymru, mi fasa hi'n braf gweld mwy o amrywiaeth yn y bandiau sy'n chwarae yn y gigs :)

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2004 6:25 pm
gan Dyl mei
Fydd Yna amrywiaeth yn y rhai nesa dwin Meddwl.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 12:01 pm
gan m.c.macrall
Danny Horner a ddywedodd:Yn fy marn i mae'r rhai ohonoch sy'n condemnio'r bandiau hyn am gael enwau Saesneg yn bod yn gul ac yn wrth seisnig. Beth sydd o'i le ar i fandiau ddefnyddio enw sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw? Os ydyn nw wedi seisnigeiddio a'n meddwl yn saesneg, mae'n ddigon teg iddyn nw gael enw saesneg fel byddai unrhyw sais arall yn gwneud. Rhagfarn yw barnu bandiau ar eu henw. Nonsens ydi meddwl bod yna unrhyw reswm masnachol dros roi enw seisnig - dwi'm yn meddwl bod hyd yn oed Zabrinski i hunan yn meddwl bod nw wir yn mynd i'w neud hi'n fawr yn Lloegr.


Iawn, ok, beth am i ni gyd newid ein enwau i Susnag a enw phob pentre yn y wlad i Susnag hefyd os na dyna'r ddadl. Oes rhaid i ni gael dadleuon plentynaidd "da chi'n wrth saesneg" Nid yw hon yn ddadl wrth Susnag, ddadl am hunaniaeth Cymraeg yw hi ! Os yw pobol yn meddwl fod mynegi eich hyn mewn ffordd Cymreag neu Cymreig (enwedig siaradwyr Cymraeg) yn wrth Saesneg mae'n dangos faint yr ydym wedi cael i gyflyru gan yr holl gachu dwyieithrwydd cyfartal prydenig sydd honi !

Hefyd ! Gadewch lonydd i TEW, sa'r wlad yn lle tlotach heb Dyl Mei a'i griw !

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 12:41 pm
gan Jac y Diawl
petai chi'n enwi'ch plentyn, chi fydd yn dewis yr enw.os oes rhyw enw da chi'n hoffi dros y gweddill am ryw reswm yna mae lan i chi os dyna be fydd yr enw.
ar ddiwedd y dydd mae lan i chi.chi sy'n dewis enw'ch band so gad i eraill dewis enwau eu bandiau nhw.

a-fuckin-men

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 1:14 pm
gan Sioni Size
Tew yn wir. Hir oes.

Danny Horner a ddywedodd:Yn fy marn i mae'r rhai ohonoch sy'n condemnio'r bandiau hyn am gael enwau Saesneg yn bod yn gul ac yn wrth seisnig. Beth sydd o'i le ar i fandiau ddefnyddio enw sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw? Os ydyn nw wedi seisnigeiddio a'n meddwl yn saesneg, mae'n ddigon teg iddyn nw gael enw saesneg fel byddai unrhyw sais arall yn gwneud. Rhagfarn yw barnu bandiau ar eu henw. Nonsens ydi meddwl bod yna unrhyw reswm masnachol dros roi enw seisnig - dwi'm yn meddwl bod hyd yn oed Zabrinski i hunan yn meddwl bod nw wir yn mynd i'w neud hi'n fawr yn Lloegr.



Wast tarw.
Be mae'r gair 'Zabrinski' yn golygu i neb p'run bynnag?
Cul a gwrth Seisnig fy nhin. MAE enw'n golygu rhywbeth, dyna di'r pwynt. Os wyt ti'n ddigon hapus i weld llond Cymru o Britneys a Nathans a dim un Llinos neu Owain yna gwyn dy fyd di.
Ond y peth trist ydi fod enwau fel texas a kentucky yn fwy cwl i lawer anferth o Gymry o ran delwedd. Fydda nhw ddim yn ystyried gadael y radio ymlaen ar ol clywed 'dyma Rheinallt H. Rowlands'. Ryda ni'n byw mewn gwlad o lyfwyr rybish heb unryw hunan hyder - 'dwisho bod yn sais'.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2004 11:00 pm
gan Dyl mei
Dwin Meddwl ddoth yr enw or film "Zabinsky point" ac ar y nhw cael
y sillafu yn anghywir. ddim yn cant y cant chwaith.

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2004 10:41 am
gan cythralski
Dyl mei a ddywedodd:Dwin Meddwl ddoth yr enw or film "Zabinsky point" ac ar y nhw cael
y sillafu yn anghywir. ddim yn cant y cant chwaith.


Zabriskie Point. A ti'n iawn. A ti'n dew.