Tudalen 1 o 148

Gêm fach y caneuon

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2003 12:35 pm
gan Gruff Goch
Be am i ni chwarae gêm fach?

Mae'r rheolau'n syml- dwi am gychwyn drwy ysgrifennu llinell o gân Gymraeg ac mae'n rhaid i chi geisio dyfalu'r gân a'r artist gwreiddiol.

Caiff yr un cyntaf i ateb yn gywir ddewis llinell o gân o'i (d)dewis er mwyn parhau'r gêm.

Reit, y llinell gyntaf ydi: 'Ac mae'r dyddie'n ddail sy'n cwympo i lawr'

Pob lwc ;)

Gruff

Re: Gêm fach

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2003 6:52 pm
gan dafydd
Gruff Goch a ddywedodd:Caiff yr un cyntaf i ateb yn gywir ddewis llinell o gân o'i (d)dewis er mwyn parhau'r gêm.

Reit, y llinell gyntaf ydi: 'Ac mae'r dyddie'n ddail sy'n cwympo i lawr'


Cerrig Melys? Dwi ddim yn cofio enw'r gan.. eto :/

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2003 8:44 pm
gan Alys
Swnio'n hyfryd. Ond yn anffodus sgen i ddim clem be ydi'r gân.
Ond jyst isio cefnogi achos dwi'n meddwl ei fod yn syniad da :)

*trywaniad yn y tywyllwch*

PostioPostiwyd: Sad 29 Maw 2003 7:17 pm
gan Mihangel Macintosh
er... Ffa Coffi Pawb? ...Sacremento ...?

PostioPostiwyd: Sul 30 Maw 2003 5:17 pm
gan Gruff Goch
Hmm.... fallai nad oedd hi'n syniad cychwyn efo llinell anodd. :wps:

Ma 'na gliwiau yn y llinell- mae'r awdur yn amlwg yn dipyn o fardd (ond nid yn llythrennol) a dydi gogs ddim yn defnyddio 'cwympo'...

Haws?

Gruff

PostioPostiwyd: Sul 30 Maw 2003 8:30 pm
gan Leusa
Ydioooooo'n rwbeth fel Meic Stevens, 'Merch o'r ffatri wlan'?!!

PostioPostiwyd: Llun 31 Maw 2003 10:08 am
gan Gruff Goch
Wehey! Da iawn!

Dy dro di yw hi rwan. :D

Gruff

PostioPostiwyd: Llun 31 Maw 2003 1:58 pm
gan Leusa
:D ok, gai lein newydd i chi erbyn heno

PostioPostiwyd: Llun 31 Maw 2003 5:07 pm
gan Leusa
"Mae na wyneb ar y teledu yn f'atgoffa i fod pob dim yn ddu"

Be di'r gan a pwy sy'n canu?!

PostioPostiwyd: Llun 31 Maw 2003 5:44 pm
gan Ramirez
Celt- Helpwch Fi