Tudalen 146 o 148
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Mer 23 Ion 2008 10:29 am
gan penn bull
Cawslyd a ddywedodd:Nid Vates, ond ti'n meddwl am y genre iawn.
ymm...TNT?..Pheena?
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Mer 23 Ion 2008 3:57 pm
gan ger4llt
Ydyn nhw'n dod o ardal Blaena o gwbl? 'Falla bod y genre yn dylanwadu ar fandia erill yr ardal...
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Mer 23 Ion 2008 8:48 pm
gan Cawslyd
Cet homme n'est pas Blaena-based, non....! Mae o oddi ar un o albyms pwysica'r 70au (ne'r 80au ella, dwi'm yn siwr) - lle ma'r senior citizens yn ein mysg?!
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Iau 24 Ion 2008 10:34 am
gan penn bull
digwydd gwrando ar y gan werth fyta fy sbesial K bora ma
Rocers gan Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Gwe 25 Ion 2008 11:16 am
gan Cawslyd
Smotyn arni. Dy dro di.
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Gwe 25 Ion 2008 1:53 pm
gan penn bull
diolch yn fawr.
be am hwn
"Dwi'n dauddeg un a dwi'n caru ti bron cymaint â dwi'n caru fy hun"
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Gwe 25 Ion 2008 3:08 pm
gan khmer hun
Tynal Tywyll. Dim syniad o enw'r gan. Fi fel tiwn gron yn y gêm yma.
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Gwe 25 Ion 2008 4:40 pm
gan penn bull
khmer hun a ddywedodd:Tynal Tywyll. Dim syniad o enw'r gan. Fi fel tiwn gron yn y gêm yma.
cywir.
sengl gynnar
dwi yn gallu treiglo gyda llaw - jyst dyfynnu'r geiriau'n oni
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Sul 10 Chw 2008 11:43 pm
gan bettega
'73 heb flares
Re: Gêm fach y caneuon
Postiwyd:
Llun 18 Chw 2008 2:42 pm
gan Rhian G
Oes rhywun yn gwybod a oes gwirionedd yn y su fod Tynal Tywyll yn ail-ffurfio am un gig yn Y Seshwn Fawr?