Tudalen 4 o 148

Re: err...

PostioPostiwyd: Iau 03 Ebr 2003 6:34 pm
gan Geraint
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Pryd Ma Te ???


Be?

Ok, falle fod hwn bach rhy obscure, mae o'n can 80'au am rhywun doniol

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 11:23 am
gan Geraint
Dwi ddim isho fod yr un sy'n gyfrifol am chwalu'r gem ma, gan fy mod i ffwrdd am cwpl o ddiwrnodau, efallai ddylwn basio'r 'baton' mlaen a ddatgelu'r ateb?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 12:10 pm
gan Gruff Goch
Jyst rho ambell i gliw arall...

Am ryw reswm oedd o'n atgoffa fi o'r Kontia, ond mid 80s?

Dwnim :(

Gruff

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 12:35 pm
gan Mihangel Macintosh
Errr.... Profiad Rhys Llwyd ? Bili Clîn? Neu Unrhyw Declyn Arall?

jyst gesio basically...

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 12:43 pm
gan Geraint
Wel mae'r artist yn un da chi gyd yn nabod, pwy oedd yn fawr yn yr wythdegau?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 1:04 pm
gan Geraint
dot dot dot dash dash dash dot dot dot

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 1:16 pm
gan dafydd
Os ydw i'n darllen y cliw yn gywir - Jarman, a dwi'n gwybod y trac ond dwi ddim am ddweud eto :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 3:00 pm
gan Manon Wyn
oni'n gwbod yn syth mai jarman, ond yn methu cofio enw'r gan.. dwi am gymryd ges a deud SOS Yn Galw Gari Tryfan. Dwi'm yn sicr os mai dyna union enw'r gan chwaith, ond dwi'n siwr 'i fod yn ddigon agos!... ydw i'n cal mynd rwan...?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 3:03 pm
gan Geraint
Da iawn Manon! Er dwi'n siwr fod Dafydd yn gwybod, mae'n amlwg ddim eisiau bod y nesa. Ffwrdd a ti Manon.....

PostioPostiwyd: Gwe 04 Ebr 2003 5:35 pm
gan dafydd
Geraint a ddywedodd:Da iawn Manon! Er dwi'n siwr fod Dafydd yn gwybod, mae'n amlwg ddim eisiau bod y nesa. Ffwrdd a ti Manon.....


Ie, fyddai ddim rownd am ychydig o ddyddiau felly o'n i ddim am greu oedi yn y gem arbennig yma :D