Tudalen 1 o 1

Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 6:28 pm
gan Ellis
Meddwl on i - fysain syniad i mi gychwyn gwefan newydd ar gyfer geiriau a chordiau caneuon cymraeg? Pawb yn gallu gyrru rhai fewn?

Mae na rai saesneg megis http://www.letssingit.com

Fyddain syniad da ta na?

Syniad am deitl?

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 6:45 pm
gan Aran
Mae'n syniad bendigedig, yn enwedig ar gyfer y cordiau - dos amdani! Un peth am letssingit.com - mae'r lle'n berwi efo scumware, dw i'n argymhell yn gryf iawn i bawb peidio รข mynd yno...

Ond byddai un Cymraeg rhydd o scumware yn fendihyfrydogedig!

canwch.com?
caneuon.com?

mbo...

PostioPostiwyd: Llun 05 Gor 2004 7:52 pm
gan Cawslyd
Dyma'r syniad gorau dwi 'di glywed erioed!
Mae 'na chydig o stwff ar http://www.clwbmalucachu.co.uk ond dim digon o bellffordd.

Be am:
http://www.maes-f.com
neu http://www.deuddeg.com ?

Re: Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 05 Meh 2012 7:27 pm
gan CordsCymraeg
Annwyl Oll,

Dois ar draws y nodyn yma tra'n gwneud ychydig o ymchwil yn sgil creu gwefan newydd - mae'n debyg bod yna rhywrai eraill wedi cael y syniad o'r blaen, ond wedi chwilio a chwalu gwgl, mi es ati i wneud un fy hun.

Felly mewn ymateb i'r naw a atebodd "Ie" i'r etholiad (?) uchod, dyma wefan newydd sbon danlli gyda cordiau ambell i gan Cymraeg. Toes yna ddim llawer ar y funud, ac mae'r dyluniad yn debyg o newid ychydig yn y cyfamser, ond my dyfith!

dyma'r wefan:

http://www.cordscymraeg.co.uk

ag os oes unrhyw unigolion hael o gwmpas, dyma i le y dylech yrru caneuon a chordiau i fynd ar y wefan.

[url]cords@cordscymraeg.co.uk[/url]

Y Cynllun ar y funud yw i roi nodyn o ddiolch fel cyswllt i twitter neu facebook neu wefan hyd yn oed ar waelod eu can(euon).

Os os unrhwy gwestiynau, plis gyrrwch ebost i'r un uchod!!

Edrychaf ymlaen i weld yr ymateb :P

Hwyl am y Tro!!

Re: Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 13 Rhag 2012 5:39 am
gan marry9091
Fyddain syniad da ta na?

Re: Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2013 9:10 am
gan nuten
dos amdani! Un peth am letssingit.com - mae'r lle'n berwi efo scumware..............................,,,,,,,,,,,,,,,,,,,,,,

:P :P :P