Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cychwyn Gwefan Newydd

Daeth y pôl i ben ar Gwe 03 Medi 2004 6:28 pm

Ia - Awe!
9
82%
Na - Dim Pwrpas!
0
Dim pleidleisiau
Os tisho!
2
18%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 11

Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

Postiogan Ellis » Llun 05 Gor 2004 6:28 pm

Meddwl on i - fysain syniad i mi gychwyn gwefan newydd ar gyfer geiriau a chordiau caneuon cymraeg? Pawb yn gallu gyrru rhai fewn?

Mae na rai saesneg megis http://www.letssingit.com

Fyddain syniad da ta na?

Syniad am deitl?
Brws Li - a jaci chan!
Ellis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 09 Rhag 2003 7:33 pm

Postiogan Aran » Llun 05 Gor 2004 6:45 pm

Mae'n syniad bendigedig, yn enwedig ar gyfer y cordiau - dos amdani! Un peth am letssingit.com - mae'r lle'n berwi efo scumware, dw i'n argymhell yn gryf iawn i bawb peidio â mynd yno...

Ond byddai un Cymraeg rhydd o scumware yn fendihyfrydogedig!

canwch.com?
caneuon.com?

mbo...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Cawslyd » Llun 05 Gor 2004 7:52 pm

Dyma'r syniad gorau dwi 'di glywed erioed!
Mae 'na chydig o stwff ar http://www.clwbmalucachu.co.uk ond dim digon o bellffordd.

Be am:
http://www.maes-f.com
neu http://www.deuddeg.com ?
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

Postiogan CordsCymraeg » Maw 05 Meh 2012 7:27 pm

Annwyl Oll,

Dois ar draws y nodyn yma tra'n gwneud ychydig o ymchwil yn sgil creu gwefan newydd - mae'n debyg bod yna rhywrai eraill wedi cael y syniad o'r blaen, ond wedi chwilio a chwalu gwgl, mi es ati i wneud un fy hun.

Felly mewn ymateb i'r naw a atebodd "Ie" i'r etholiad (?) uchod, dyma wefan newydd sbon danlli gyda cordiau ambell i gan Cymraeg. Toes yna ddim llawer ar y funud, ac mae'r dyluniad yn debyg o newid ychydig yn y cyfamser, ond my dyfith!

dyma'r wefan:

http://www.cordscymraeg.co.uk

ag os oes unrhyw unigolion hael o gwmpas, dyma i le y dylech yrru caneuon a chordiau i fynd ar y wefan.

[url]cords@cordscymraeg.co.uk[/url]

Y Cynllun ar y funud yw i roi nodyn o ddiolch fel cyswllt i twitter neu facebook neu wefan hyd yn oed ar waelod eu can(euon).

Os os unrhwy gwestiynau, plis gyrrwch ebost i'r un uchod!!

Edrychaf ymlaen i weld yr ymateb :P

Hwyl am y Tro!!
CordsCymraeg
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Maw 05 Meh 2012 7:18 pm


Re: Gwefan Geiriau/Cordiau caneuon Cymraeg

Postiogan nuten » Gwe 08 Chw 2013 9:10 am

dos amdani! Un peth am letssingit.com - mae'r lle'n berwi efo scumware..............................,,,,,,,,,,,,,,,,,,,,,,

:P :P :P
nuten
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Gwe 08 Chw 2013 8:58 am


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron