nicdafis a ddywedodd:Gruff Goch a ddywedodd:Sawl gwaith ma' Johnny R wedi datgan yn ddramatig ei fod o'n ein gadael ni, mond i ail-ymddangos mewn wythnos neu ddwy am ei fod o'n cael cold turkey gan nad ydio wedi cael lambastio neb am fod yn gyfryngi-lyfi yn gyhoeddus yn ddiweddar?
Dw i wedi cael llond bol ohono. Mae ei (ffug-)paranoia yn boring erbyn hyn. Dw i'n gwybod bod hyn jyst yn bwydo ei <i>persecution complex</i> ond dw i wedi cloi ei gyfrif.
Fydd e ddim yn sylwi, wrth gwrs, achos fod e wedi'n gadael.
Dyna ydi be mae o wedi bod yn trio dy gael di i neud ers amser, yn enwedig y diwrnodau diwetha 'ma... Mi fydd o mond yn gweld hynny fel buddugoliaeth.
Mae'r threads am Beks a Dyl Mei yn dangos pa mor desperate ydi o i gael yr hawl i fynd o gwmpas yn dweud 'Ie, ges i fy bannio o Maes-E, dwi mor cool. Bloody crach Cymraeg Fascist cyfryngi lovies etc. etc.
Hollol predictable. A fel ti'n ddeud, boring.
I fod yn onest dwi ddim yn cymryd sylw o be mae o'n ddweud, er mae'n wir dydw i ddim wedi cael yr un driniaeth a Dyl Mei (un o'r perks o beidio bod yn enwog, mae'n siwr ). Ma croen Dyl yn hen ddigon caled beth bynnag.
Heddwch