Neges i bob hogyn a hogan o Rachub yn anad neb, ac eto'n gobeithio cynnwys pawb o symudwrs ac ysgwydwrs maes-e.
Wsnos i nos Wenar, Mai 16, fydd y Moniars yn chwarae yng nghesail bryniau godidog Ogwen.
Yn y clwb rygbi ym Methesda, ffeifar ar y drws a chyfle i ennill mwsdash a mwled Arfon Wyn, a llinyn-Gee personol wedi'i lofnodi gan y Sacsaffonydd.
Hefyd taflwn Elin Fflur i'r fargian (bargian - un o hen eiriau ardal 'Jenny' Ogwen, sy'n gallu golygu 'bargain' yn yr iaith fain).
Dowch yn llu felly i gynnal diwylliant lager poeth a phorc scratchings yr heniaith.
Gig wedi'i drefnu gan Bwyllgor Ymarfer Corff Yr Urdd - gweithdy gymnasteg wrth y prif far toc wedi'r wyth o'r gloch. Rhaid bod mewn liotard i gymryd rhan.