Wy’n cydymdeimlo’n llwyr a dy rwystredigeth di Dewi.
Ond a gaf i ychwanegu cwyn ychwanegol hefyd – a dwy ddim am fod yn negyddol ‘for the sake’ o fod yn negyddol, mae hi yn broblem mawr sy’n wynebu trefnwyr gigs – Cyllid.
Yn syml mae’n rhatach, ac mae yna fwy o arian iw wneud mewn trefnu disco – o mhrofiad i mae fwy o bobl ifenc yn mynychu disgo/dawns nag sydd yn mynychu gigs bandiau byw.
Ychydig iawn o bobl yma sydd a’r offer angnrheidiol PA ar gyfer gigs, ac yn aml mae’n nhw’n gofyn am bris anghredadwy am eu llogi (£300) – er fod un neu ddau o eithriadau i gael. Fel y dywedodd Prysor, mae yna ddiffyg dybryd mewn lleoliadau hefyd.
Ond y maen tramgwydd pennaf yw’r bandiau eu hunen. Mae bandiau yng Nghymru yn gofyn am symiau afresymol i chwarae mewn gig, a dy’n nhw’n aml iawn yn ddim fwy na pre-pubescent wannabe’s gyda un ep dodgy iw henw. Pwy mae rhai yn meddwl y’n nhw dwy ddim yn gwybod. Y gymhariaeth yma fyddai Lloegr, lle mae bandiau ifanc yn gorfod talu am y fraint o chwarae yn eu tafarn lleol. Ond dy’n ni ddim yn y sefyllfa yma i allu troi rownd at y bandiau a dweud ‘ok, ni ddim ishe chi am y pris hynny, gewn ni rywun arall yn lle’, achos os oes yna fand arall sydd a’r ‘pulling power’ yna mi fyddant hwy hefyd yn gofyn am swm afresymol.
Mae bai yn gorwedd ar rywrai yma.
Yn rhannol mae bai yn gorwedd ar Maes-B am dalu symiau gwallgo i fandiau i chwarae yno, gan godi disgwyliadau y bandiau yma tu hwnt i reswm. Ond mae’r broblem dipyn yn fwy na hyn yn unig.
Mae gwendid nad oes yna ‘syrcit’ oes, ond lan i pwy yw hi i drefnnu’r ‘syrcit’? Os yw’r cyfrifoldeb yn cwympo ar ysgwyddau unigolion neu fudiadau, yna mae’n rhaid iddyn nhw naill ai gael y cyllid i dalu’r symiau afresymol neu godi pris afresymol am fynediad – pwy bynnag ffordd, yn amlach na pheidio colled ariannol sy’n dilyn. Mae’r mudiad wedyn yn gofyn, yn ddigon teg, beth yw diben cynnal gig codi arian os mai colli arian sy’n digwydd? Pwy fanc roddai fenthyciad i gwmni i sefydlu menter sydd yn ol pob trac record y bum mlynedd ddwetha yn neud colledion? Dim.
Mae hi felly’n gorwedd ar ysgwyddau y rheolwyr i fynd a’r bandiau ar deithiau. Rhys Mwyn…Rhys Ffycin Mwyn?!?! Say no more.
Ond, fel yr awgrymais yn gynt am fandiau gyda ‘pulling power’, bach iawn ohonyn nhw sydd ar gael.
Big Leaves; Anweledig; gadewch i ni fod yn onest, faint arall sydd i ga’l yn y lig yma yng Nghymru…John ac Alun, Iona ac Andy, Dylan a Neil, Dafydd Iwan, Meic Stevens….ma’ na batrwm yma, heblaw ein bod ni’n edrych ar ail ffurfio fel y gwelwyd yn Steddfod Solfa leni – Ty Gwydr; Jess – ond hn stejars yw’r rhein hefyd bellach sy’n golygu dim i fyfyrwyr chweched heddiw.
Y rheswm amlyca am hyn yw nad yw bandiau yn cael y chwarae teg haeddianol yn y cyfrngau Cymraeg (cylch yma yn mynd yn ol at ddadl arall yn y seiat hon) – dyw’r cyhoedd ddim yn cael ymgyfarwyddo a’r bandiau ifanc, a’r unig dro y mae band ifanc yn cael ‘air-play’ yw os yw Jonsi neu Cefin a Eleri yn eu chwarae, ac ermwyn gwneud hyn mae’n rhaid i’r gerddoriaeth fod yn ‘radio friendly’ blah blah blah.
Hynny yw, mae cyfrifoldeb ar bawb i gael y sin i lwyddo. Os oes gig yn yr ardal mae cyfrifoldeb arnom ni i fynychu yn achlysurol i ddangos cefnogaeth. Mae’n rhaid i ni fyny naill ai ail sianel radio neu fwy o barch i fandiau ar y radio presenol; mynnu Fideo 9 arall, neu rywbeth cyffelyb; mynnu caneuon Cymraeg neu ganeuon gan fandiau Cymru yn y clybiau (Clwb Ifor et al), a pheidio cynnig arian dwl am fand.
Sai’n chware mewn band (dim talent cerddorol!), ond os fydden i, wy’n siwr y bydden i’n ymfalchio yn y ngwaith – ond mae bandiau nawr yn barod i chwrae set o awr o flaen cynulledifa o 20 a gadael, a chwyno wedyn fod neb yno! Mae e hefyd lan iddyn nhw – gofyn am llai o arian = pris tocyn yn llai = mwy o siawns cael fwy o gynulleidfa. Hefyd mae’n rhaid iddyn nhw fynnu chwarae teg hefyd ar y cyfryngau.
Ond dim beirniadaeth cyffredinol yw hyn o fandiau Cymru. Ddim o gwbwl. Fel wy wedi gweud ishws yn rhwle, ma’ ymdrech Anweledig i ddenu sylw at y diffyg cefnogaeth ma’ bandie yng Nghymru yn ei ga’l yn rhywbeth iw edmygu, a ma Tystion (gynt) a MC Mabon yn ddigon militant eu ffyrdd ymhlith eraill – falle fod angen sefydlu undeb i gerddorion Cymru neu fudiad yw cynrychioli er mwyn dangos ffrynt unedig i’r gorfforaeth a S4C…hmmm, na chi syniad.
Digon fan hyn am nawr i fwydo’r drafodaeth.