Mawredd Mawr 2002

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mawredd Ffocing Mawr

Postiogan Neb » Llun 04 Tach 2002 8:19 pm

Maha-ffocing-rishi lwmp o gachu. Trafodwch hwnna. :x
Neb
 

Postiogan Prysor » Maw 05 Tach 2002 7:55 pm

Rhestru caneuon gorau? Off the cuff, like? Anodd. Rhof rhain am y tro:-

Lot gan Llwybr Llaethog
Lot gan Jarman
Lot gan Stevens
Jecsyn Ffeif - Triongl, Wyf Gymro, Byw Mewn Gwlad, Rhyfel Byd a llawer mwy.....
Anweledig - Scratchy, Madarchol (live version), Fuzzwah (fersiwn gwreiddiol cyn Sombreros), Low Alpine, Gweld y Llun a rhai eraill...
Cyrff - Cymru, Lloegr a Llanrwst, Lebanon, Llawenydd heb Ddiwedd, Mewn Plu, Hwyl Fawr Heulwen a llawer mwy.....
Y Kontia - Ni yw y Kontia
Anhrefn - lot o sdwff
Tystion - lot o sdwff
MC Mabon - lot o sdwff
Datblygu - Y Teimlad, Nefoedd Putain Prydain, Maes E ac eraill.....
Mim Twm - lot o sdwff
Pep le Pew - "ffwcio gwaith a cyfalafiaeth"
Root Lucies - Cam Bach Arall / Another Step
Lovgreen - Entrepeneur, 25 0ed a mwy.....
Bob Delyn - Poeni Dim, Ffair y Bala a mwy.....
Popeth gan 'NEU UNRHYW DECLYN ARALL' (legends of rock n roll!!!)
Estella - Cymry Rhydd
Caban - Ysbryd, Pam? a mwy........
One Style - System
Super Furries - Dacw Hi, Ymaelodi a'r Ymylon...
Ffa Coffi - Allan O'i Phen etc

Byddai nol rywbryd efo list mwy manwl...........
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan ceribethlem » Mer 06 Tach 2002 8:36 pm

Y gan orau yn yr iaith Gymraeg, heb os nac oni bai, yw "Y Brawd Houdini" gan Meic Stephens. Ond am rhesymau nepetistaidd rwy'n pleidleisio "Maes B" gan Y Blew fel y gan Gymraeg orau!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan nicdafis » Iau 07 Tach 2002 1:17 am

Mae'n debyg bod <a href="http://www.bbc.co.uk/wales/music/features/pages/jg_gruff_rhys.shtml">Gruff Rhys</a> yn cytuno â ti.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan pwy? » Iau 07 Tach 2002 9:01 am

mae o'n piti fod y sin gymraeg yn mynd yr un ffordd a'r un saesneg- pawb yn gwrando gormod ar y cyfryngau yn lle ar ei cydwybodau'u hunain.
hogia maharishi (hogia iawn- miwsig iawn) ond dwi'n ama na nhw'r fasa'r cynta i cyfadda bod na grwpia/canwyr llawer ar y blaen.
er bod isio symud ymlaen, a pheidio dal meddwl am Meic a neb arall- dwi'n dechra colli ffydd yn yr gwrandawyr cymraeg- ydym wedi anghofio pob dim am miwsig da?

sortiwch hi allan. da ni'n well na'r top of the pops gachu ma.
Rhithffurf defnyddiwr
pwy?
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Mer 23 Hyd 2002 9:56 am
Lleoliad: llundain

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 07 Tach 2002 10:48 am

pwy? a ddywedodd:mae o'n piti fod y sin gymraeg yn mynd yr un ffordd a'r un saesneg- pawb yn gwrando gormod ar y cyfryngau yn lle ar ei cydwybodau'u hunain.
hogia maharishi (hogia iawn- miwsig iawn) ond dwi'n ama na nhw'r fasa'r cynta i cyfadda bod na grwpia/canwyr llawer ar y blaen.
er bod isio symud ymlaen, a pheidio dal meddwl am Meic a neb arall- dwi'n dechra colli ffydd yn yr gwrandawyr cymraeg- ydym wedi anghofio pob dim am miwsig da?

sortiwch hi allan. da ni'n well na'r top of the pops gachu ma.


Ma gen i barch i unrhyw un sy'n mynd ati i ffurfio band yn unrhyw iath, cos mae'n cymryd gyts i neud. Gen i fwy fyth o barch i fandie sy'n neud e trwy'r Gymraeg. Mae'n llawer haws i slagio bandie na ffurfio nhw.

Ma'r pwynt ynglyn a'r cyfryngau yn un dilys, er i ba rhaddau mae nhw'n dicteiddio dwi'm yn siwr. Serch hynnu, wrth gofio bod ni'n wlad fach iawn, mae na gryn dipyn o dalent mas 'na sy'n canu'n Gymraeg. Fase ni'n hoffi gweld mwy o fandie a lot mwy o gigs - does dim syrcit yn bodoli yma, ddim un gwerth son amdano heblaw am Clwb Ifor > Eisteddfod.

Hefyd mae angen codi proffeil Cymru ar lefel rhwngwladol. Ma na angen sicrhau cysylltiadau cryf gyda gweddill Ewrop. Yn wahanol i'r wlad monoglot drws nesaf, mae agwedd fwy agored i ieithoedd yn gyffredinnol gan wledydd fel Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Amrhywiaeth cerddorol ydy'r peth pwysig - dyna beth sy'n cyfoethogi unrhyw sin. Dwi ddim am weld Sin Gymraeg, ond sawl sin cryf yn y Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Prysor » Iau 07 Tach 2002 8:53 pm

Ategu.
Mae taer angen venues rheolaidd i greu circuit i ecsplodio sin gigs yng Nghymru, achos mae'r bwrlwm ar yr ochr creadigol yn anhygoel ar y funud.
Ond mae un elfen bychan o fai yn dod o du'r bandiau hefyd. Ychydig o fandiau sydd yn gallu deud 'iawn, fyddan ni yno', yn syth, dros y ffon wrth drefnwr gigs. Dim deud mai dyma y bai am ddiffyg gigs ydw i, ond siarad o brofiad. Mae rhaid i hyn gael ei ddeud, achos os geith o ddim ei ddeud neith dim gael ei neud...
Mae'n gallu bod yn ffycin infuriating!
Ti'n ffonio canwr y band i fyny, mae'n deud fod y dyddiad yn iawn efo fo, ond mae isio checkio efo'r rest o'r band a neith o ffonio chdi'n ol cyn diwadd yr wythnos. Ti'n deud y bysat ti'n licio ateb a.s.a.p, so mae o'n deud neith o ffonio'n ol fory (sy'n ddigon ffycin drwg). Dydio ddim yn ffonio'n ol so ti'n chasio fo i fyny. Mae'n deud nad ydio wedi manejio i gael gafael ar so and so, ond mwya tebyg y gallant wneud y gig. Ti'n chansio posteri, wedyn cael galwad ffon i ddeud bod y bassist yn mynd ar stag night i Rhyl neu mae'r keyboardist yn mynd a'i gariad i siopa...
Weithia mae'r bands yn canslo noson cyn gig. Weithia mae bands yn canslo heb ddeud wrthat ti, ond yn ffonio'r venue i fyny i ddeud, a ti'n cael galwad ffon stressed gan landlord y Groovy Arms pan ti'n hollol racs am ddeg o gloch ar nos Iau....
Mae 'na gymint o senarios gwahanol o'r engreifftiau gwahanol uchod yn digwydd bron bob tro mae trefnwr yn trio trefnu gig. Dwi yn bersonol ddim yn beio bobol am gael eu rhoi off trefnu.
Ond fel y dudais, dydwi ddim yn credu mai hyn yw y bai mwyaf am ddiffyg gigs. Diffyg venues a diffyg bobol i godi off eu tinau i ddechrau trefnu gigs ydio.
Cyn belled a mae gwendid trefniant y bandiau yn y cwestiwn, eto dydio ddim yn fai arnyn nhw nad ydyn nhw'n mwy proffesiynnol eu hagwedd. Achos petai venues da, rheolaidd, byddai circuit. Os byddai curcuit, byddai bands isio chwarae y circuit. Bydd o wedyn yn rhoi cyfle i fandiau, ac ysbrydoliaeth. Efo hynny daw proffesiynoldeb - y cyfle'n creu awydd i gigio, a'r ewyllys i allu deud "ie, ydym rydym yn rhydd ar y noson honno, byddan ni yno, hyn o bres ydan ni isio, faint o'r gloch mae'r sound-check?"

Mae angen creu buzz fydd yn gneud bands i fod yn gorfod bod 'on the ball' i allu cael eu pig i fewn ar y circuit.
Ar y funud gall trefnwyr ond breuddwydio am yr ateb uchod mewn paradwys ffwl.

Venues i Gymru nawr!

Teithiau tramor. Eto, ategu Mihangel ymhob peth mae'n ddeud, gan ychwanegu bod angen mwy o gyfleon i fandiau deithio gwyliau cerddorol Ewrop. Rhyw fath o rwydwaith o drefnwyr, ffynhonellau arian etc sydd a'r wybodaeth ar gael yn glir a phendant, yn lle unigolion yn gweithio ar ben eu hunain yn y diffeithwch. Gorau trefnu, cyd-drefnu. Byddai asiantaeth wirfoddol, gyd-weithredol o gerddorion ac artistiaid yn beth da.....fel Ogam-Sgamp yn Blaenau Ffestiniog.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Cardi Bach » Gwe 08 Tach 2002 10:43 am

Wy’n cydymdeimlo’n llwyr a dy rwystredigeth di Dewi.
Ond a gaf i ychwanegu cwyn ychwanegol hefyd – a dwy ddim am fod yn negyddol ‘for the sake’ o fod yn negyddol, mae hi yn broblem mawr sy’n wynebu trefnwyr gigs – Cyllid.
Yn syml mae’n rhatach, ac mae yna fwy o arian iw wneud mewn trefnu disco – o mhrofiad i mae fwy o bobl ifenc yn mynychu disgo/dawns nag sydd yn mynychu gigs bandiau byw.
Ychydig iawn o bobl yma sydd a’r offer angnrheidiol PA ar gyfer gigs, ac yn aml mae’n nhw’n gofyn am bris anghredadwy am eu llogi (£300) – er fod un neu ddau o eithriadau i gael. Fel y dywedodd Prysor, mae yna ddiffyg dybryd mewn lleoliadau hefyd.
Ond y maen tramgwydd pennaf yw’r bandiau eu hunen. Mae bandiau yng Nghymru yn gofyn am symiau afresymol i chwarae mewn gig, a dy’n nhw’n aml iawn yn ddim fwy na pre-pubescent wannabe’s gyda un ep dodgy iw henw. Pwy mae rhai yn meddwl y’n nhw dwy ddim yn gwybod. Y gymhariaeth yma fyddai Lloegr, lle mae bandiau ifanc yn gorfod talu am y fraint o chwarae yn eu tafarn lleol. Ond dy’n ni ddim yn y sefyllfa yma i allu troi rownd at y bandiau a dweud ‘ok, ni ddim ishe chi am y pris hynny, gewn ni rywun arall yn lle’, achos os oes yna fand arall sydd a’r ‘pulling power’ yna mi fyddant hwy hefyd yn gofyn am swm afresymol.
Mae bai yn gorwedd ar rywrai yma.
Yn rhannol mae bai yn gorwedd ar Maes-B am dalu symiau gwallgo i fandiau i chwarae yno, gan godi disgwyliadau y bandiau yma tu hwnt i reswm. Ond mae’r broblem dipyn yn fwy na hyn yn unig.
Mae gwendid nad oes yna ‘syrcit’ oes, ond lan i pwy yw hi i drefnnu’r ‘syrcit’? Os yw’r cyfrifoldeb yn cwympo ar ysgwyddau unigolion neu fudiadau, yna mae’n rhaid iddyn nhw naill ai gael y cyllid i dalu’r symiau afresymol neu godi pris afresymol am fynediad – pwy bynnag ffordd, yn amlach na pheidio colled ariannol sy’n dilyn. Mae’r mudiad wedyn yn gofyn, yn ddigon teg, beth yw diben cynnal gig codi arian os mai colli arian sy’n digwydd? Pwy fanc roddai fenthyciad i gwmni i sefydlu menter sydd yn ol pob trac record y bum mlynedd ddwetha yn neud colledion? Dim.
Mae hi felly’n gorwedd ar ysgwyddau y rheolwyr i fynd a’r bandiau ar deithiau. Rhys Mwyn…Rhys Ffycin Mwyn?!?! Say no more.
Ond, fel yr awgrymais yn gynt am fandiau gyda ‘pulling power’, bach iawn ohonyn nhw sydd ar gael.
Big Leaves; Anweledig; gadewch i ni fod yn onest, faint arall sydd i ga’l yn y lig yma yng Nghymru…John ac Alun, Iona ac Andy, Dylan a Neil, Dafydd Iwan, Meic Stevens….ma’ na batrwm yma, heblaw ein bod ni’n edrych ar ail ffurfio fel y gwelwyd yn Steddfod Solfa leni – Ty Gwydr; Jess – ond hn stejars yw’r rhein hefyd bellach sy’n golygu dim i fyfyrwyr chweched heddiw.
Y rheswm amlyca am hyn yw nad yw bandiau yn cael y chwarae teg haeddianol yn y cyfrngau Cymraeg (cylch yma yn mynd yn ol at ddadl arall yn y seiat hon) – dyw’r cyhoedd ddim yn cael ymgyfarwyddo a’r bandiau ifanc, a’r unig dro y mae band ifanc yn cael ‘air-play’ yw os yw Jonsi neu Cefin a Eleri yn eu chwarae, ac ermwyn gwneud hyn mae’n rhaid i’r gerddoriaeth fod yn ‘radio friendly’ blah blah blah.
Hynny yw, mae cyfrifoldeb ar bawb i gael y sin i lwyddo. Os oes gig yn yr ardal mae cyfrifoldeb arnom ni i fynychu yn achlysurol i ddangos cefnogaeth. Mae’n rhaid i ni fyny naill ai ail sianel radio neu fwy o barch i fandiau ar y radio presenol; mynnu Fideo 9 arall, neu rywbeth cyffelyb; mynnu caneuon Cymraeg neu ganeuon gan fandiau Cymru yn y clybiau (Clwb Ifor et al), a pheidio cynnig arian dwl am fand.
Sai’n chware mewn band (dim talent cerddorol!), ond os fydden i, wy’n siwr y bydden i’n ymfalchio yn y ngwaith – ond mae bandiau nawr yn barod i chwrae set o awr o flaen cynulledifa o 20 a gadael, a chwyno wedyn fod neb yno! Mae e hefyd lan iddyn nhw – gofyn am llai o arian = pris tocyn yn llai = mwy o siawns cael fwy o gynulleidfa. Hefyd mae’n rhaid iddyn nhw fynnu chwarae teg hefyd ar y cyfryngau.
Ond dim beirniadaeth cyffredinol yw hyn o fandiau Cymru. Ddim o gwbwl. Fel wy wedi gweud ishws yn rhwle, ma’ ymdrech Anweledig i ddenu sylw at y diffyg cefnogaeth ma’ bandie yng Nghymru yn ei ga’l yn rhywbeth iw edmygu, a ma Tystion (gynt) a MC Mabon yn ddigon militant eu ffyrdd ymhlith eraill – falle fod angen sefydlu undeb i gerddorion Cymru neu fudiad yw cynrychioli er mwyn dangos ffrynt unedig i’r gorfforaeth a S4C…hmmm, na chi syniad. :syniad:
Digon fan hyn am nawr i fwydo’r drafodaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Prysor » Gwe 08 Tach 2002 12:29 pm

Cytunaf, fy nghefnder pell pell (pell)!
Mi fyswn i'n meddwl mai un goriad (allwedd!) i wella pethau fyddai cael llwyth o bobl ymroddedig i drefnu gigs rheolaidd yn eu haraloedd eu hunain, efo rhyw fath o gyd-lyniad llac (i'r graddau o sicrhau bod dim gormod o clash denu cynulleidfaoedd). Dwi'n deud 'ymroddedig' achos mae angen ymroddiad i gadw amynedd efo bandiau wrth drefnu!
Dyfal donc yw'r gyfrinach yma dwi'n credu. Yn araf, fe dyfith pethau.
Ac os bydd y cyd-lynnu llac yn golygu bod pob un o'r trefnwyr yn cadw at yr egwyddor o dalu costau a bonws i'r bandiau yn unig, i ddechrau, yna mae gobaith y daw llwyddiant a ffyniant yn araf bach.
Mae rhaid i rai bandiau gael eu hysgwyd o ddiogi. Hynny yw, mae llawer o'r bandiau efo uchelgais rhy isel, sef chwarae gig bob mis am isafswm o £200 y gig. Mae hyn yn non-starter i drefnwyr. Dylai'r bandiau beidio bod mor ddiog, a codi oddiar eu tinau a bod yn barod i chwarae dau, dri o gigs yr wythnos am uchafswm o £50 y tro. Rhaid cropian cyn cerdded yw'r egwyddor i fandiau a trefnwyr fel eu gilydd. Heb y cydweithio - y ddealltwriaeth yma - fydd y sin ddim yn tyfu, a bydd yr holl fwrlwm ar yr ochr greadigol sydd gennym yng Nghymru ar y funud yn mynd yn ofer.

Mae yn bwysig edrych ar ol y bandiau, ydi, a mewn gigs one-off mi ydw i wastad yn gneud yn siwr fod y bandiau yn cael eu hedrych ar ol, yn ariannol a fel arall. Ond mae rhaid wrth ddealltwriaeth rhwng bandiau a threfnwyr (a rheolwyr os oes rhai) bod rhaid wrth barodrwydd i chwarae gigs am bres petrol, pres cwrw neu uchafswm o £50, yn weddol rheolaidd os oes unrhyw syrcit yn mynd i weithio. Mae Rhys Mwyn yn deall hyn, chwarae teg, ond credaf ei fod wedi arall-gyfeirio i'r sin boy/girl bands erbyn heddiw, ydi?

Mae Cymuned efo olwynion yn troi i ddechrau syrcit sy'n estyn o Fangor i Aberystwyth ar y funud, ond mae'n stolio oherwydd bod trefnwyr yn y canghennau yn cael trafferth efo dau beth - lleoliadau a rhai o'r grwpiau. Mae hyn yn ddigon i wneud i'r trwfnwyr ifanc newydd yn eu plith i roi'r ffidil yn y to.

Cardi Bach, bydd rhaid i ni sgwrsio pan gwrddwn tro nesa, a rhoi penna at eu gilidd a chael :syniad: efo'i gilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 08 Tach 2002 7:46 pm

Dwi'n licio "Ty Ar Y Mynydd" gan Maharishi lot, ond baswn i'n gallu ennill dwsinau o ganeuon gwell gan Dafydd Iwan, Edward H neu Anweledig.

Sut ddiawl nath Yma O Hyd dim ennill wn i ddim. Cân gorau Cymru oll, siwr o fod.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron